"Mae teithiau Cymdeithas Hanes Meirionnydd yn hynod o boblogaidd ac mae amryw o aelodau yn cael eu siomi bob blwyddyn oherwydd nad oes digon o le i bawb.
Gymaint oedd y galw yn 2006 nes i ail ymweliad gael ei drefnu 芒 phlasty Rhiwlas, Y Bala, ar 27 Mehefin. Croesawyd y cwmni yn wresog gan sgweier Rhiwlas, Mr Robin Price a'i wraig. Amlinellodd Mr Price dipyn o hanes y teulu a'r st芒d a chawsom sgwrs ddifyr a ffraeth hefyd gan Buddug Medi.
Rhys ap Meredydd oedd yn cario baner y Ddraig Goch ar faes Brwydr Bosworth ac am hynny fe'i gwobrwywyd yn hael 芒 thiroedd gan Harri VII. Cafodd y teulu ragor o diroedd gan Harri VIII wedi iddo ddiddymu'r mynachlogydd. Dros y canrifoedd tyfodd y st芒d a bu'r teulu yn noddwyr hael i'r beirdd. Clough Williams Ellis a gynlluniodd y t欧 hardd, yn 1954, ar sylfeini yr hen blasty.
Yr aelod amlycaf o'r teulu yn y cyfnod diweddar oedd R J Lloyd Price. Ef a gafodd y syniad o gynnal treialon c诺n defaid am y tro cyntaf. Sefydlodd gwmni chwisgi Cymreig yn Fron-goch yn ogystal 芒 llu o ddiwydiannau eraill i greu gwaith yn yr ardal. Collodd lawer o'i gyfoeth drwy gamblo and bu'n lwcus drwy fetio ar geffyl o'r enw Bendigo a defnyddiodd beth o'i enillion i godi beddrod sylweddol i'r teulu yn eglwys Llanfor (gweler y llun uchod).
Cyn ymadael, cafodd yr aelodau de ardderchog gan Mr a Mrs Price.
Nod y gymdeithas yw hybu diddordeb yn hanes a diwylliant y sir ac mae croeso i unrhyw un ymaelodi drwy ffonio 01341 424681." Nan Griffiths Ewch i ddarllen mwy o hanes Rhiwlas a'r egsentrig RJ Lloyd Price yn ein horiel enwogion yma.
|