"Taid fy nhad, Jeremiah Williams, oedd y cloddiwr aur cyntaf yn ein teulu ni. Dwi ddim yn si诺r os mai yng Ngwynfynydd neu yn y Clogau y byddai'n cloddio, ond dros y blynyddoedd bu ei fab, Huw, a'i fab ef, sef fy nhad, hefyd wrthi'n cloddio am aur.
"Yn y 1950au, dim ond fy nhad a'i bartner, Huw Edwards, oedd yn tyllu am aur yn ystod y gaeaf, ac yn ystod yr haf, roedd y ddau yn ddigon prysur gyda'r holl waith fferm hefyd wrth gwrs.
"Fel bachgen ifanc, mi fyddwn i yn mynd heibio'r cloddfeydd fin nos, wedi diwrnod o waith yma ac acw yn y pentref ac yn helpu gyda'r wincho, sef tynnu o'r twll y pridd a'r graig roedd fy nhad a Huw wedi'i saethu yn ystod y dydd. Roedden nhw'n creu digon agos i dunnell y dydd, ac mi fyddwn i'n helpu i lenwi'r tryc, a'i wagio tu allan i'r gloddfa. Mewn tywydd braf, bydde dad a Huw wedyn yn eistedd i lawr ar stolion godro, estyn bwced o bridd, tollti d诺r drosto a chwilio am yr aur.
"Yn 1979, roeddwn i'n gweithio yn Nolgellau. Daeth fy nhad yno i ddweud am ryw ddyn o Seland Newydd oedd 芒 dipyn o bres, a'i fod am gloddio am yr aur yn Ngwynfynydd a'r Clogau. Er nad oeddwn i fawr o eisiau, roedd fy nhad am i mi weithio yn y gloddfa yn ei le.
""Chdi 'di'r unig un feder fynd drosta i, gan fy mod i 'di mynd yn rhy hen" medde fo wrthyf. "Cer di, mi ddyweda i wrthyt ti lle i dyllu a saethu."
"A felly, dyna lle roeddwn i am bron i dair blynedd, yn gweithio gyda chyfaill arall - a hynny heb fasg ar fy wyneb na pheiriannau tyllu iawn. Ond mi ddaethon ni o hyd i aur cythgam o dda. Dwn i ddim beth ddigwyddodd i'r aur yma ar 么l ei dyllu - aeth y boi o Seland Newydd 芒 fo i ffwrdd.
"Yna daeth y Caernarfon Mining Company i gloddio. Mi ddaru nhw lwyddo i godi dwy filiwn o bunnau ar y stock exchange, ac mi ddaethon nhw 芒 daearegydd o Gernyw, a th卯m o gloddwyr o'r cloddfeydd tin yno.
"A dyna ddiwedd cysylltiadau ein teulu ni efo'r cloddfeydd ar y cyfan. Er fod y cloddwyr o Gernyw yn rhai digon galluog, 'doedd fy nhad ddim yn hapus iawn efo nhw. Roedden nhw'n saethu gormod o bridd ar y tro, gan ei wneud yn amhosib i gadw llygad ar lle roedd yn aur yn eistedd yn y ddaear. Wedi darganfod un boced o aur wrth gloddio ryw ddeg troedfedd i lawr, gellid, mwy na thebyg, ddarganfod poced arall. Felly mae'n bwysig gwybod lle yn union roedd yr aur i gychwyn.
"Caeodd y cloddfeydd aur yn y 1990au, a dyna ddiwedd arnyn nhw am y tro. Aeth fy nhad fyth yn 么l yno i weithio - roedd o wedi torri ei galon braidd."
Darllenwch hanes teulu Jeremiah Williams.