91热爆

Explore the 91热爆
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91热爆 91热爆page
91热爆 Cymru
91热爆 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91热爆 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Lianne Bailey Aduniad y chwiorydd
Wedi blynyddoedd o chwilio, fe ddaeth Lianne Baily o Fangor o hyd i'w pedair hanner chwaer drwy ddefnyddio adnoddau eang y we. Dyma'i stori:

Roeddwn i wastad wedi bod eisiau cael hyd i fy mhedair hanner chwaer ac mae'r rhyngrwyd wedi bod o gymorth mawr imi wneud hynny.

Priododd fy nhad yn 18 oed a chael pedair merch, un ar 么l y llall, yn fuan iawn wedyn. Roedd o'n swyddog yn y Llynges Frenhinol ac roedd fy mam yn athrawes yn Ysgol St George, sef ysgol y fyddin yn Hong Kong. Yno y cyfarfu'r ddau a syrthio mewn cariad ac, o ganlyniad, fe'm ganwyd i.

Ond, ar y pryd roedd hi'n anodd bod yn fam sengl felly fe'm rhoddwyd i gael fy mabwysiadu ac fe fum yn byw efo rhieni maeth am chwe mis. Pan ddaeth fy nhad yn 么l o'r m么r, fe ddaeth 芒 fi yn 么l adre efo fo ac fe briododd 芒 fy mam, er iddyn nhw ysgaru yn ddiweddarach. Mi gollais i gysylltiad efo fo wedyn.

Ers hynny rydw i wedi cael gwybod iddo fo farw pan oeddwn i'n 20 oed a hynny mewn amgylchiadau digon trasig er iddo gael angladd milwrol llawn. Yn drist, chafodd o ddim cyfle i gwrdd 芒 fy mab, ac rydw i'n meddwl y bydde fo wedi hoffi cael hogyn ac yntau wedi cael pump o ferched.

Mi ymunais i 芒 safle Friends Reunited ar y we lle gofynnais am wybodaeth am fy hanner chwiorydd. Roeddwn i'n gwybod eu bod nhw wedi eu magu yn Perth yn yr Alban. Mi gysylltais hefyd 芒 chyfnither imi nad oeddwn i wedi ei gweld ers pan oeddwn i'n naw oed. Mi gefais wybod ei bod yn byw yng Nghaer ac fe es i draw i'w chyfarfod.

Yna, daeth ffrind ysgol i fy chwiorydd i gysylltiad 芒 mi a rhoi gwybodaeth imi am eu mam nhw. Gan bod ei chyfenw mor anghyffredin, gwaith bychan oedd cael hyd iddi yn y Llyfr Ff么n. Mi ffoniais hi, a dweud mai hen ffrind ysgol i'r merched o'n i, rhag ei brifo, a chael rhif ff么n fy chwaer, Vivian.

Roedd siarad efo Vivian am y tro cyntaf yn brofiad anhygoel. Mae ganddi hi ferch o'r enw Leanne ac roedd hi'n gwybod bod gan ei thad blant eraill ond doedd hi ddim yn gwybod dim amdanynt. Fe wnaethon ni drefnu i gyfarfod ond mi ysgrifennodd yn ddiweddarach a dweud nad oedd hi am barhau efo'r berthynas. Roeddwn i'n drist iawn ond yn parchu ei dymuniad. Ond mi wnes i ysgrifennu yn 么l ati a gofyn os oedd ganddi wybodaeth am y chwiorydd eraill ac fe anfonodd gyfeiriad Lorna yn Ne Affrica ataf.

Lorna ydy'r unig chwaer i mi gwrdd 芒 hi ac fe'i gwelais hi ddiwethaf ym 1974 cyn iddi ymfudo i Dde Affrig efo'i g诺r cyntaf. Roedd hi'n arfer dod i fy ngweld ac mi dreuliais i wyliau efo hi a'i g诺r yn Llundain.

Ychydig fisoedd yn 么l, mi gefais e-bost gan 诺r Lorna, roedd hi'n rhy gynhyrfus i e-bostio ei hun, ond roedd hi'n falch iawn o glywed gen i. Ers hynny, rydyn ni wedi bod yn e-bostio ein gilydd yn rheolaidd.

Rydw i wedi gwneud llawer o ffrindiau ar y rhyngrwyd. Un diwrnod, yn hanner gwamalu mi ddywedais y gallwn i fforddio mynd i Dde Affrica petawn i'n cael ceiniog gan bawb rydw i'n eu hadnabod. Cynigiodd un ffrind roi ei Air Miles imi. Fe drefnodd y cyfan ac mae fy nhocyn i fynd i weld Lorna wedi cyrraedd. Rydw i'n hel Air Miles fel yr andros rwan er mwyn i fy mhartner a fy mab ddod efo mi er mwyn iddynt hwythau weld fy chwaer hefyd.

Yn anffodus, bu farw un o'm chwiorydd ychydig flynyddoedd yn 么l a dydw i ddim yn meddwl y byddai'r bedwaredd yn awyddus i gysylltu. Ond mae hi wedi bod yn wych dod i adnabod un ohonyn nhw a dw i'n edrych ymlaen at gael cyfarfod Lorna eto o'r diwedd. A fyddai dim o hyn wedi bod yn bosib oni bai am y rhyngrwyd!

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91热爆 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91热爆 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy