Arlunydd, bardd ac awdur a fu'n byw ar Enlli.
Brenda Chamberlain oedd un o'r merched prin hynny a ennillodd fri fel llenor yn ogystal ag fel artist. Yn wir, anodd gwahanaethu rhwng y ddau gelfyddyd yn ei hachos hi.
Mae'r elfen weledol yn gref yn ei cherddi a'i rhyddiaith megis yr elfen lenyddol yn ei lluniau.
Bu'n byw am ran fwyaf ei hoes heb ymgymryd ag unrhyw swydd er mwyn canolbwyntio ar ei gwaith creadigol.
Magwraeth freintiedig
Ganwyd hi ym 1912 ym Mangor ac fe'i haddysgwyd hi'n breifat, gan fod ei rhieni yn ddigon cefnog.
Ym 1931 aeth i Lundain i'w hyfforddi yn yr Academi Frenhinol a dyna lle y cwrddodd hi â'r artist John Petts, y gŵr a ddaeth yn briod iddi; ymgartrefodd y ddau mewn bwthyn uwchben Llanllechid, ger Bethesda, yn Sir Gaernarfon, gan ennill yr enw o fod yn 'hipis' cynnar.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cydweithredodd y ddau ar gynhyrchu cyfres o chwe thaflen, The Caseg Broadsheets, sy'n cynnwys gwaith gan Dylan Thomas ac Alun Lewis.
Disgrifir y fenter fyrhoedlog hon yn y llyfr Alun Lewis and the Making of the Caseg Broadsheets (1969).
Gan fod y gyfres wedi cyfyngu i nifer fach o gopiau, mae e'n brin iawn ac yn gwerthu o dro i dro am tua mil o bunnau.
Yr Almaen ac Enlli
Wedi'r rhyfel, a'u priodas ar ben, aeth Brenda Chamberlain i'r Almaen i aros gyda Karl von Laer, y cyfaill y cyflwynodd iddo ei chasgliad o gerddi, The Green Heart (1958). Roedd hi wedi adnabod von Laer cyn y rhyfel, er nad yw natur eu perthynas yn hysbys.
Yn yr Almaen y lleolir ei hunig nofel, The Water Castle (1964), sef dyddlyfr chwe wythnos am serch ac anghytgord rhwng y ddau.
Aeth i fyw ar Ynys Enlli ac arhosodd yno hyd 1961, yn paentio'r trigolion ac yn ysgrifennu ei llyfr pwysicaf, Tide Race (1962), sy'n adlewyrchu ei buchedd anodd ar yr ynys.
Yn y llyfr hwn ceir drych o'i hiechyd corfforol a meddyliol yn ogystal â disgrifiadau llachar o'r tymhorau a chaledi bywyd yr ynys, mewn rhyddiaith sy'n agos at farddoniaeth; fe'i ailargraffwyd, gyda rhagymadrodd dadlennol gan Jonah Jones, ym 1996.
Gwlad Groeg a Gwynedd
Ym 1961 symododd i fyw ar Ydra, un o ynysoedd Gwlad Groeg, profiad a ddisgrifir yn A Rope of Vines (1965), nes i'r cadfridogion gael gwared ar ddemocratiaeth.
Erbyn hyn roedd hi'n isel ei hysbryd ac wedi'i llethu â phroblemau ariannol.
Mae'r gwaith ar bapur a wnaeth yn ystod ei harhosiad ar Ydra yn haniaethol a mewnblyg tu hwnt, bron fel gwaedd am y cariad na chafodd gan ddynion.
Bu farw yn Ysbyty Gwynedd ym 1971 ac mae yna le i gredu ei bod hi wedi lladd ei hun.
Ers ei marwolaeth ym 1971 mae Brenda Chamberlain wedi cael ei chydnabod fel artist o'r radd flaenaf.
Mae ei gwaith pwysicaf yn bortreadau o bysgotwyr Enlli, a llwyddodd wneud cynfasau sy'n siarad yn huawdl am eu dewrder yn wyneb y tywydd garw.
Meic Stephens