|
|
Nofelydd a newyddiadurwraig
Anne Lindholm y bydd cyn-ddisgyblion Ysgol Sir y Genethod yn cofio Alice Thomas Ellis. Daeth i fyw ym Mhenmaenmawr at deulu ei mam yn ystod yr ail rhyfel byd a chafodd ei fagwraeth yn y gogledd orllewin argraff mawr arni trwy gydol ei hoes. Aeth yn ôl i Lerpwl pan oedd yn 16 i astudio yng Ngholeg Celf y ddinas cyn dewis troi'n Babydd ac ymuno â chwfaint am chwe mis fel ymgeisydd. Er iddi adael yno, parhaodd yn Babydd selog, gan cyfrannu'n gyson i'r 'Catholig Herald' am flynyddoedd. Symudodd i Lundain, priododd yr argraffwr Colin Haycraft a chawsant saith o blant, er bu farw un ferch yn faban ac un mab mewn damwain pan oedd yn 19 mlwydd oed. Penmaenmawr oedd y lleoliad ar gyfer ei nofel gyntaf, 'The Sin Eater' a byddai'n ddychwelyd i'w gartref yng Nghymru pob tro wrth gychwyn gweithio ar lyfr newydd, ac i Bennant Melangell aeth ar ôl farwolaeth ei gŵr yn 1994. Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau, roedd hi hefyd yn newyddiadurwraig, gyda cholofnau mewn nifer o cyhoeddiadau gan cynnwys papur y 'Spectator' dan y ffug enw '91Èȱ¬ Life'. Bu farw ar 8 Mawrth 2005 yn Llundain. Ymhlith ei nofelau y mae: The Sin Eater, 1977The Birds of the Air, 1980 The Twenty-seventh Kingdom, 1982 The Other Side of the Fire, 1983, Viking, 1984Unexplained Laughter, 1985 The Clothes in the Wardrobe, 1987The Skeleton in the Cupboard, 1988The Fly in the Ointment, 1989 The Inn at the Edge of the World, 1990Pillars of Gold, 1992 The Summer House: A Trilogy, 1994 A Welsh Childhood, 1990 Fairy Tale, Moyer Bell 1998
|
|
|
|
|