Telynores a chyfansoddwraig sy'n llysgennad i'r delyn deires drwy'r byd.
Daw Llio Rhydderch o linach o delynorion Cymreig sy'n mynd yn 么l genedlaethau ac fe gafodd ei thrwytho yn yr etifeddiaeth draddodiadol honno o oedran ifanc iawn. Cafodd ei magu ar fferm Coed Mawr ym Mhenrhos ger Bangor, a fferm Aberlleiniog ym Mhenmon, Ynys M么n.
Roedd ei thad, Prydderch Williams, yn faledwr a chanwr penillion a fu'n feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac fe gafodd Noson Lawen y 91热爆 ei chynnal droeon ar fferm y teulu ym Mhenrhos. Oddi yno y darlledwyd y Noson Lawen gyntaf erioed ar y radio pan oedd Llio yn fabi.
Dechreuodd ganu'r delyn yn wyth mlwydd oed a chafodd ei dysgu gan feistres y delyn deires, Nansi Richards, Telynores Maldwyn.
"Roedd fy athrawes delyn, Nansi Richards, yn perthyn o bell," meddai Llio mewn cyfweliad arbennig efo Lleol.
"Byddai'n dod i aros ar y fferm yn aml pan fyddai'n gweithio gyda'r 91热爆 ym Mangor ac felly fe fyddai ei thelyn yma yn y t欧 ar yr adegau hynny."
Yn 15 oed, enillodd wobr telyn arian Mostyn am unawd agored ac ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr un flwyddyn.
Aeth ymlaen i astudio Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth ac, ar 么l graddio, aeth yn athrawes Gymraeg. Symudodd i'r Bontfaen gyda'i g诺r a bu'n dysgu yn y de am 12 mlynedd cyn dod yn 么l i fyw yn y gogledd i ofalu am ei rhieni.
Yn rhyfeddol, dim ond tua deng mlynedd yn 么l y gwnaeth hi ailafael yn y delyn o ddifri.
Erbyn hyn cydnabyddir ei bod wedi etifeddu mantell Nansi Richards, ac mae'n trosglwyddo'i chrefft i Delynwyr Llio, gr诺p o delynwyr ifanc sy'n cael eu dysgu, fel y cafodd hithau, yn y dull traddodiadol o wrando a dehongli yn hytrach na darllen cerddoriaeth ysgrifenedig.
Mae Llio wedi cydweithio a pherfformio ag artistiaid o wahanol draddodiadau: cerddorion o Mali, Madagasgar, Irac a Thibet yn eu plith. Perfformiodd hefyd ag unigolion fel John Cale ar gyfer y ffilm Camgymeriad Gwych; Andrew Cronshaw yn ei brosiect diweddaraf, Ochre; Donal Lunny a Lesley Garrett i enwi dim ond rhai.
Yn ogystal 芒 chyfrannu traciau i gryno ddisgiau aml-gyfrannog, fel CD Cwpan Rygbi'r Byd 1999, mae wedi cyhoeddi tri CD unigol: Telyn, Melangell ac Enlli.
Mae hefyd wedi ymddangos mewn gwyliau ar draws y byd, o Efrog Newydd i Rufain, gyda myrdd o artistiaid gwahanol.
Does dim syndod felly ei bod yn dweud ei bod yn cael trafferth dewis uchafbwyntiau ei gyrfa gerddorol: "Roedd gweithio efo John Cale yn brofiad, ac hefyd ffilmio'r cyngerdd efo Lesley Garrett yn y Round House yn Llundain. Roedd chwarae ar wahoddiad Radio 3 yng Ng诺yl Ryngwladol Caeredin ac yng Ng诺yl Delynau Caeredin hefyd yn uchafbwynt.
"Mae cymaint o bethau bendigedig wedi digwydd i mi - mae'n fraint cael fy ngwahodd i wneud cymaint o bethau."
Mae ei cherddoriaeth hefyd wedi ymddangos ar raglenni radio a theledu ar 91热爆 2, 91热爆 Radio 4 a Radio 3 ac S4C.
Mae wedi cyhoeddi sawl CD o'i gwaith: "Fydda i byth yn ysgrifennu'r gerddoriaeth i lawr ar bapur - mae'r cwbl lot yn fy mhen. Mae pobl yn gofyn sut y galla i recordio CD fel hynny - ond rydw i'n ei weld fel perfformiad. Mae pob un perfformiad yn wahanol, a'r gerddoriaeth yn newid trwy'r amser."
Mae mwy o wybodaeth am Llio Rhydderch, ei gwaith a'r artistiaid mae wedi cydweithio 芒 nhw ar ei gwefan; mae'r ddolen yn y golofn ar ochr dde'r dudalen hon.