Lleidr a dihangydd
Mae'n rhyfedd fel y gall rhai pobl sy'n llwyddo i ddianc o garchar, beth bynnag fo'u troseddau, droi yn wrtharwyr, a rhai yn wir yn
arwyr. Dyna i chi'r lleidr Ronnie Biggs, a George Blake yr ysb茂wr
wedyn. Fe'u hystyrir fel rhai sydd wedi codi dau fys ar y gyfraith.
Ar
droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan Gymru ei gwrtharwr
ei hun, sef John Jones, neu Goch Bach y Bala.
Troseddwr parhaus
Petai'r Coch Bach yn fyw heddiw, mae'n debyg y c芒i ei ddisgrifio
fel troseddwr parhaus. Treuliodd ymhell dros hanner ei oes mewn
caethiwed.
Roedd yn lleidr wrth reddf ond, eto i gyd, hanner canrif ar
么l ei farw, cyfrannodd dros 70 o bobl o Gymru a Lloegr - a hyd yn oed o Ganada - tuag at garreg fedd i'w gosod uwchben un o'r cnafon mwyaf yn hanes Cymru.
Does dim cofnod o enedigaeth John Jones - dim cofnod o'r dyddiad, ei rieni na'i fan geni - ond tybir iddo gael ei eni yn 1854.
Oherwydd ei enw cyffredin cafodd mwy nag un glasenw - Jac Llanfor, Coch Bach Llanfor a Choch Bach y Bala.
Oes o dorri'r gyfraith
Pan oedd yn ifanc iawn cafwyd arwyddion o'r hyn oedd i ddod.
Pan nad oedd ond yn chwe mlwydd oed cafodd ei chwipio gan yr
heddlu am ladrata.
Ni lwyddodd y gosb i'w atal, ac aeth ymlaen i ladrata a herwhela am weddill ei oes.
Daeth i sylw ehangach y tu allan i'w fro wedi iddo dorri i mewn i
d欧l yn Llandderfel yn 1872, ac yntau tua 18 oed.
Ei ysbail oedd pwrs
gwag, cyllell boced a stiliwns, ac yr oedd hyn yn nodweddiadol
ohono.
Manion bethau a symiau cymharol bitw o arian yr oedd yn eu
dwyn.
Carchar a dihangfa
Bu yn y carchar am saith wythnos cyn cael ei ddedfrydu yn y
Llys Chwarter ar 16 Hydref i bedwar mis arall dan glo.
Y flwyddyn wedyn torrodd i mewn i dai yn Llandrillo ac yng Nghorwen gan ddwyn swllt, ceiniog ac allwedd yn y naill a hanner sofren, tri phishyn gr么t, tri phishyn tair, ffyrling, hanner ffyrling ac allwedd yn y llall.
Y tro hwn, wedi iddo gael ei ddal yn Rhiwabon,
fe'i dedfrydwyd i dair blynedd o garchar am y naill drosedd a'r llall,
y dedfrydau i ddilyn ei gilydd.
Erbyn 1878 roedd 芒'i draed yn rhydd.
Cyn hir roedd wrthi eto, y tro hwn yn wynebu cyhuddiad o achosi cynnwrf gydag eraill ger tollborth y
Bala.
O ganlyniad, treuliodd ei seithfed Nadolig yn olynol mewn carchar.
Erbyn hyn roedd enw'r Coch Bach yn chwedl, a byddai mamau'n rhybuddio eu plant afreolus y deuai Jac Llanfor ar eu h么l.
Yn 1879 fe'i cawn yng nghyffiniau Wrecsam yn cael ei arestio fel cnaf a chrwydryn.
Bryd hynny treuliodd dri mis yng ngharchardai Caer a Rhuthun.
Bedwar diwrnod ar 么l cael ei ryddhau arestiwyd ef eto a'i gyhuddo
o dorri i mewn i d欧 yn Llanfor a dwyn oriawr, ac iddo, ar yr un noson, dorri i
mewn i d欧 yn Llanycil a dwyn deg oriawr.
Roedd wedi cyrraedd Croesoswallt pan ddaliwyd ef. Cadwyd ef yng Ngharchar Rhuthun i aros y Llys Chwarter ond, cyn iddo dreulio'i wythfed Nadolig dan glo, llwyddodd
i gerdded allan trwy ddrws y ffrynt ar 么l agor drws ei gell a thri drws arall.
Cynigiwyd gwobr o bumpunt am
wybodaeth a allai arwain at ei ddal, ac erbyn hyn roedd ei enwogrwydd wedi cyrraedd papurau newydd Lloegr.
Dangosodd y Coch ei haerllugrwydd drwy fynd adref i Lanfor.
Yno torrodd rhywun i mewn i d欧l a dwyn pwrs, dwy allwedd, cyllell, punt mewn pres, tair punt mewn arian ac ymron i 拢40 mewn aur.
Nid oedd hyn yn gyson ag arferion y Coch, ond priodolwyd lladradau eraill iddo hefyd.
Daliwyd ef ym Mochdre ar 3 Ionawr 1880. Yn ei bocedi canfuwyd pum oriawr, gwn gwag, cyllell, telesgop, a dau bwrs yn cynnwys ymron i chwe phunt mewn copr, arian ac aur.
Dygwyd ef gerbron ynadon y Bala yn Neuadd y Sir, a'r lle yn orlawn.
Bu wrthi'n cyflwyno datganiad maith a danfonwyd ef ymlaen i'r Llys Chwarter yn Nolgellau.
Yn y fan honno fe'i dedfrydwyd i bedair blynedd ar ddeg o garchar.
Treuliodd ei ddedfryd yn Pentonville ac yn Dartmoor, ond cafodd ei ryddhau yn 1891.
Cyfnod tramor
Yna penderfynodd y byddai'n mynd i deithio'r byd.
Aeth i Dde America ac yna i Antwerp cyn dychwelyd i Middlesborough.
Cyn hir, fe'i gwelwyd yn Essex ac, yn amlwg,
roedd ei gampau'n parhau wrth iddo gael ei gyhuddo o ddwyn oriawr
gadwyn, talp o gaws a swm o arian yno.
Fe'i daliwyd gan yr heddlu
ond llwyddodd i ddianc am ychydig cyn cael ei ddal unwaith eto.
Aethpwyd ag ef i Garchar Chelmsford tra oedd yr achos yn ei erbyn yn cael ei baratoi.
Dygwyd ef o flaen y Brawdlys a dedfrydwyd ef i gyfanswm o saith mlynedd yng Ngharchar Dartmoor.
Ni chawn s么n amdano wedyn tan 1900 a hynny yn Amlwch. Dwyn o dafarn oedd y cyhuddiad yn ei erbyn yno, a dedfrydwyd ef i bum mlynedd o garchar ym Mrawdlys Biwmares.
Yn 1906, wedi iddo gael ei draed yn rhydd eto, fe'i cawn ym Mhwllheli yn gweithio ar yr harbwr newydd.
Ymddengys nad oedd modd iddo ymwrthod 芒 throseddu yma ychwaith.
Fe'i cyhuddwyd o drosedd nad oedd yn nodweddiadol ohono, sef ymosod ar hen wraig a dwyn deg punt oddi arni.
Ergyd yn gorffen ei yrfa
Erbyn hyn roedd wedi treulio 35 mlynedd o'i fywyd mewn carchar ac roedd mwy yn ei aros.
Ym Mrawdlys Caernarfon danfonwyd ef i Dartmoor tan 1913.
Chwe mis ar 么l iddo gael ei ryddhau cyhuddwyd ef o dorri i mewn
i swyddfeydd twrnai yn y Bala.
Cadwyd ef yn y ddalfa dros y Sul,
ond llwyddodd i dorri twll yn wal ei gell a dianc. Fe'i daliwyd ger Llanfor.
Yn y Llys Chwarter yn Nolgellau, ac yntau erbyn hyn yn drigain oed, carcharwyd ef am dair blynedd arall.
Danfonwyd y Coch i Garchar Rhuthun, ond ni fu yno'n hir iawn.
Torrodd dwll drwy fur ei gell, gwnaeth raff o'i ddillad gwely a gollyngodd ei hun i lawr dros do'r capel a'r gegin a neidio i ben tas wair.
Diwrnod olaf y Coch ar y ddaear oedd 6 Hydref 1913.
Roedd Reginald Jones Bateman, myfyriwr 19 oed, allan yn saethu petris ger Pwllglas.
Gwelodd y Coch gerllaw a galwodd arno i ildio ond gwrthododd. Meddyliodd y llanc fod y Coch yn tynnu gwn o'i fynwes a thaniodd ato.
Aeth yr ergyd trwy wyth茂en fawr ei goes a bu farw'r Coch o fewn munudau.
Claddwyd Coch Bach y Bala ym mynwent Llanelidan a heddiw, uwch
ei gorff, saif beddfaen y talwyd amdano gan Gymry o bell ac agos.
Ai arwr oedd y Coch, ynteu dihiryn? Yn sicr, enillodd ei
gamweddau ryw fath o enwogrwydd iddo, ac er na allwn honni i'r
Coch Bach gyflawni dim o werth yn ei fywyd, mae ei enw'n parhau ar gof cenedl bron i ganrif wedi ei farwolaeth.
Lyn Ebenezer