"Mi roeddwn i am gystadlu efo'r cacennau. Roedd y ferch yn cystadlu efo'i chwningen a'r mab efo gwaith coed, ond dim ond y ferch gafodd drïo yn y diwedd gan fod y pebyll crefft a chynnyrch wedi dod i lawr. Mi fyddwn ni'n bwyta'r cacennau mae'n siwr - roeddwn i wedi gweithio'n galed yn pobi cacen moron, bara brith a sgons!"