Ar y pryd roedd Maffia Mr Huws yn eu hanterth a gŵyl Pesda Roc yn ddigwyddiad blynyddol yn y dref. Y ddau fachgen ifanc oedd Gruff Rhys a Rhodri Puw, a ddaeth, bron i ugain mlynedd yn ddiweddarach yn aelodau o'r Super Furry Animals a Gorky's Zygotic Mynci."Mi gafodd Maffia Mr Huws effaith anferth ar Fethesda," meddai Gruff Rhys a fagwyd gerllaw yn Llanllechid. "Roedden nhw ar dân yn fyw, efo o leiaf dau fws o Fethesda yn eu dilyn o gwmpas o gig i gig. Mi gafodd lot o grwpiau eraill eu ffurfio o gwmpas yr wythdegau cynnar hefyd oherwydd ysbrydoliaeth Maffia Mr Huws."
Roedd nifer o unigolion dylanwadol yn y dref hefyd. Yn eu plith Les Morrison a agorodd Stiwdio Les yno ac sy'n dal i gydweithio efo'r Super Furry Animals fel technegydd.
Meddai Gruff: "Roedd o'n gatalydd mawr i gerddoriaeth y dre, a fo wnaeth 'sgwennu lot o ganeuon ar gyfer bandiau o'r ardal.
"Mi agorodd o stiwdio efo Alan o'r Maffia. Pan fu farw Alan mewn damwain car yn Llydaw, roedd Les yn ddewr i gadw'r stiwdio i fynd."
Oni bai am yr hinsawdd yma efallai na fyddai SFA na'i egin-fand, Ffa Coffi Pawb, yn bodoli heddiw ond mae llawer o'r diolch hefyd i ysgol roc leol a band ifanc o'r enw Machlud.
"Mi gafodd ysgol roc ei ffurfio yn y clwb ieuenctid ym Methesda. Mi fyddai tua dwsin o blant yr ardal yn mynd yno i ddysgu sut i chwarae offerynnau gwahanol," cofia Gruff.
Dyma lle y cyfarfu â Dafydd Ieuan, drymiwr presennol y Super Furries.
"Roedd y ddau ohonon ni'n trïo dysgu chwarae'r dryms! Mi wnes i ymuno efo'r band Machlud, efo Neil Roberts, Andrew Roberts ac Aled Jelibîn a Martin Beattie (bellach o Celt) yn canu.
"Mi fydden ni'n ymarfer dair gwaith yr wythnos ac yn gigio bob penwythnos. Ond wedyn mi ddaru Martin a Neil gychwyn gweithio yn y chwarel, a mi wnaeth pethau ddod i ben rywsut."Roedd dylanwadau'r drymiwr ifanc ar y pryd yn amrywio o chwaeth gerddorol brawd a chwaer hŷn i gymysgedd o sîns pync ac electronig arbrofol lleol.
"Roedd fy mrawd, Dafydd, yn aelod o Chŵd Poeth, y band pync cyntaf o Fethesda. Mi fydden nhw'n ymarfer yn ein tŷ ni ac yn gadael gitârs o gwmpas y lle, felly roedd o'n ysbrydoliaeth mawr i mi gymryd diddordeb mewn cerddoriaeth," meddai Gruff.
"Ac roedd fy chwaer Non yn chwarae'r gitâr hefyd. Roedd hi'n hoffi pobl fel Bob Marley, Black Sabbath a'r Undertones - recordiau pync mwy melodig.
Bandiau arbrofol
"Fel Les, roedd Gorwel Owen o Sir Fôn yn guru i ni ar y pryd hefyd. Roedd o'n aelod o fandiau arbrofol fel Sgidiau Newydd, Plant Bach Ofnus a'r Brodyr, bandiau oedd yn wirioneddol dda ac o safon ryngwladol.
"Roedd y Brodyr yn edrych fel tase nhw wedi glanio o'r gofod - jest yn hollol bohemian, efo gwallt fel yr Human League mewn cyfnod pan roedd y rhan fwyaf o bobl mewn gigiau Cymraeg yn gwisgo crysau rygbi! Doedd Cymru rioed wedi gweld y ffasiwn beth.
"Roedd yna hefyd sîn gwych yn Llanrwst yn y cyfnod, efo'r Cyrff a Tân Gwyllt, a sîn pync mawr ym Mhorthmadog hefyd!"
Yn y cyfnod roedd Recordiau'r Cob ym Mhorthmadog yn un o siopau recordiau mwyaf blaenllaw Prydain, yn gwerthu llawer o gerddoriaeth newydd o America gan sicrhau bod pobl yr ardal yn gwybod cymaint am gerddoriaeth newydd â phobl Llundain a thu hwnt.
Grŵp arall dylanwadol o'r ardal oedd Elfyn Presli a'r Massey Furgusson yn ôl Gruff: "Dwi'n cofio nhw'n hongian rownd Pesda Roc yn edrych fel petaen nhw wedi disgyn o'r gofod ac yn canu caneuon gwych fel Jacbŵts Maggie Thatcher a Parti Bili Tomos - un o'r caneuon gorau i gael ei recordio yn y Gymraeg erioed.
"Dyma'r math o ganeuon pync pwerus ofnadwy y gellid eu chwarae unrhyw le yn y byd ac mi fuasai pobl yn eu gwerthfawrogi," meddai.
Morrissey yn Llandudno
Ar ôl i'r band â'r enw proffwydol, Machlud, ddod i ben, doedd Gruff Rhys fawr o dro yn ail-gydio ynddo a ffurfio un arall, a hynny efo'i ffrind ysgol Rhodri Puw, sydd bellach yn aelod o Gorky's Zygotic Mynci. Mae'n esbonio sut i siomedigaeth efo cyngerdd gan y Smiths sbarduno'r ddau i ddechrau recordio a ffurfio Ffa Coffi Pawb:
"Roeddwn i yn yr un dosbarth ysgol â Rhodri Puw, ac roedd y ddau ohonon ni'n hoffi bandiau fel y Velvet Underground, Joy Division, New Order a'r Jesus and Mary Chain.
"Roedden ni'n awyddus i ffurfio grŵp oedd yn adlewyrchu ein chwaeth ni mewn cerddoriaeth.
"Mi aethon ni weld y Smiths yn Llandudno un noson, ond mi gafodd y gig ei ganslo am fod rywun wedi ymosod ar Morrissey yn Preston y noson gynt.
"Felly aeth Rhodri a minnau adre mewn tymer ddrwg, a phenderfynu recordio albwm ar hen beiriant casét yn stafell ffrynt ei rieni!
"Roedd y caneuon yn eithaf rough a blin, gan ein bod ni'n flin ar y pryd! Roedd o hefyd yn arbrofol ofnadwy - ddaru ni ddefnyddio'r soffa a tun bisgedi fel drymiau.
"Mi wnaethon ni gopïau o'r albym ar dapiau brynais i o'r Bargain Centre ym Mangor am 35c, a'i werthu rownd tafarnau Bangor am 50c. Mi ddaru ni werthu un o'r tapiau yma i Gorwel Owen."
Erbyn 1996, Gorwel Owen oedd cynhyrchydd albwm gyntaf y Super Furry Animals, Fuzzy Logic ac mae'n dal i gydweithio'n glos efo'r band.
Pesda Roc a sîn heddiw
Ar y dechrau, chwarae'r drymiau oedd Gruff am ei wneud, nid canu, ond doedd neb arall eisiau canu chwaith, felly bu rhaid iddo fo sefyll yn y bwlch ac fe fydden nhw'n defnyddio peiriant dryms a dril wrth chwarae'n fyw. Yn nes ymlaen ymunodd ei hen ffrind Dafydd Ieuan i chwarae'r drymiau yn ei le ac, efo Dewi Emlyn ar y gitâr fâs, mi ddaethon nhw'n fand mwy confensiynol.
Hei Vidal oedd CD ola'r band ac fe chwalon nhw yn 1993. Wedi cyfnod yn byw ym Marcelona, daeth Gruff adref a ffurfio'r Super Furry Animals gyda Dafydd Ieuan, Cian, brawd Dafydd, a Huw Bunford a Guto Price o Gaerdydd. Heddiw mae'r SFA yn un o grwpiau mwyaf llwyddiannus Cymru ac wedi chwarae ar draws y byd ac fe fuon nhw ar daith yn America yn 2003.
Cyn hynny, yn haf 2003, fe ail atgyfodwyd hen ŵyl Pesda Roc yr 1980au fel rhan o ŵyl y Dathlu ym Methesda i gofnodi canmlwyddiant diwedd streic fawr y Penrhyn.
"Roedd cael gŵyl mawr fel Pesda Roc yn gynhyrfus iawn ers talwm," meddai Gruff. "Mi fyddai yno faes pebyll mawr, a lot o bobl ddiddorol yn dod draw i Bethesda.
"Pan es i nôl i chwarae yn Pesda Roc efo'r SFA, doeddwn i ddim yn hoffi meddwl amdanon ni fel y prif fand. Mi gafodd yr ŵyl ei chomisiynu gan y pwyllgor dathlu i nodi canmlwyddiant y Streic Fawr, ac mi roedd hefyd yn amser i ddathlu diwylliant a cherddoriaeth Bethesda."
Ac er fod Gruff yn credu bod llawer o dalent yn sîn roc yr ardal heddiw ac yn crybwyll y Tystion, MC Mabon a Kentucky AFC fel enghreifftiau, ei neges i gerddorion Cymru ydy nad y sîn ydy'r peth pwysicaf.
Meddai: "Mae'n bwysig i bobl beidio â meddwl am sîn roc fel y cyfryw, ond jest gwneud beth mae'n nhw'n teimlo fel ei wneud".