Roedd p芒r anferth o dr么ns coch, gwyn a gwyrdd yn chwifio dros un babell ar y maes gyda llond lein ddillad o dronsys amryliw eraill yn cadw cwmni iddo tu allan. Y tu mewn i stondin Tr么ns Mistar Urdd, bu'r ddau artist Eleri Jones a Bedwyr Williams yn cynnal gweithdai addurno tr么ns gan groesawu unrhyw un, yn blant ac oedolion, i ymweld 芒'r stondin i greu gwaith celf unigryw. Drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol a modern o argraffu, gyda chyfrifiadur, sganiwr a chamera, roedden nhw'n gweithio'n agos efo ymwelwyr i greu gweithiau celf unigol. Menter ar y cyd rhwng yr Urdd a chymdeithas ffilm y R锚l Institiwt o Ddyffryn Conwy ydy'r prosiect ac yn cadw golwg ar y babell gydol yr wythnos roedd Alun Williams, swyddog datblygu plant mewn angen yr Urdd yn y gogledd orllewin ac Iwan Williams o'r R锚l Institiwt. Ar ddydd Sadwrn ola'r eisteddfod, gofynwyd i berchnogion y tronsys gerdded o gwmpas y maes yn eu p芒r personol mewn par锚d y tu 么l i'r prif dr么ns, a oedd wedi ei harwyddo gan enwogion yr 诺yl. Mae'r enillydd yn cael mynd 芒'r dilledyn anferth adref i'w drysori - gyda chaniat芒d arbennig Mistar Urdd wrth gwrs ...
|