Cynhaliwyd yn y neuadd gyhoeddus, nos Wener, Hydref 17, a chafwyd cyfarfod llwyddiannus iawn a chystadlu niferus o safon uchel yn enwedig yn y cystadlaethau cartref. Daeth 223 o gyfansoddiadau i mewn yn y gwahanol gystadlaethau yn adrannau Ll锚n a Barddoniaeth gyda chystadleuwyr o F么n i Gwm Tawe. Diolch i bob un ohonynt am gefnogi'r steddfod.
Y ddau arweinydd oedd Mrs Lynne Edwards, Trawsfynydd a Mr Robin P Jones, Penrhyndeudraeth. Y llywydd, er iddi fethu bod yn bresennol, oedd Mrs Thelma Hughes, Betws-y-coed. Y ddau brif feirniad oedd Mrs Nia Morgan, y Bala, yn cloriannu'r Cerdd a Cherdd dant a Mr Geraint Lloyd Owen, Bontnewydd, y Llefaru, Ll锚n a Barddoniaeth a hynny'n ddeallus a diddorol. Cyfeiliwyd fel arfer gan Mr Tudur P Jones, Tywyn. Beirniaid eraill oedd: Llawysgrif - Miss Elin Jones, Penrallt; Arlunio - Mr WH Evans, Godre'r Graig a Ffotograffiaeth - Mr DG Thomas, Maesgwyndy. Cadeirydd y pwyllgor yw Mr Edward Jones, y Trysorydd Mrs Catherine Roberts a'r ysgrifenyddion Mr Derfel Roberts a Mrs Gwyneth M Tomos.
|