91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Rhyl
Triawd Caeran yn canu'r cywydd croeso, ysgrifennwyd gan Berwyn Roberts, yn ystod y noson Cyngerdd cyhoeddi Gŵyl Gerdd Dant 2008
Cafwyd noson werth chweil yng Nghlwb Golff Dinbych nos Fercher, 24 o Hydref wrth i lu o artistiaid ddod ynghyd i ddathlu Cyhoeddi Gŵyl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008.
Roedd dros gant o bobl yn bresennol ar gyfer y cyngerdd, gyda'r Å´yl yn cael ei chynnal yn Nyffryn Clwyd ar y 15 o Dachwedd 2008 yn Theatr Pafiliwn y Rhyl.

gwrando Croeso Gŵyl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008 gan Leah Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

"Roedd hi'n braf croesawu artistiaid lleol sy'n arddangos talent arbennig yn Nyffryn Clwyd; Triawd Caeran gydag Ieuan ap Siôn, Meinir Llwyd ar y delyn, Ynyr Llwyd yn canu i gyfeiliant piano trydan ac Eryl Davies yn arwain y noson," meddai Leah Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith.

Meinir Llwyd, yn wreiddiol o Rhuallt, yn canu'r delyn yn ystod y noson

Estynwyd croeso arbennig i Gadeirydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, Nia Rowlands i'r Clwb Golff.

  • Edrych ymlaen i'r Å´yl yn 2008

    Dywedodd ei bod hi'n hynod o falch o dderbyn y copi cyntaf o Restr Testunau Gŵyl Cerdd Dant Dyffryn Clwyd 2008, ac roedd hi'n edrych ymlaen yn eiddgar i fynychu'r Ŵyl yn 2008, a chlywed rhai o'r darnau gosod sydd yn y testunau yn cael eu perfformio ar lwyfan.

    A hithau'n byw yn Llanelltyd, Dolgellau, braf iawn oedd ei gweld yn y noson, yn cynnig cefnogaeth frwd i'r tîm diwyd yn Nyffryn Clwyd.

    Gŵr arall dderbyniodd groeso twymgalon i'r noson oedd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, Ian Miller.

    Ac yntau'n byw dafliad carreg o'r Clwb Golff, croesawodd Leah Owen ef i'r Noson Gyhoeddi.

    "Rydyn ni'n hynod o falch bod Prif Weithredwr y sir, Ian Miller, wedi derbyn y gwahoddiad i fod yn Llywydd Anrhydeddus yr Å´yl yn y Dyffryn y flwyddyn nesaf.

    "Mae'n braf cydweithio â'r Cyngor Sir i ddod â gŵyl genedlaethol ddiwylliannol yma i Sir Ddinbych."

    Bydd criw o Ddyffryn Clwyd yn cynrychioli'r fro yn yr Å´yl Gerdd Dant yn Ystrad Fflur a'r Fro eleni yn croesawu'r Å´yl yma i'r dyffryn y flwyddyn nesaf, ac yn mwynhau'r cystadlu brwd.



  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý