Cyn y penwythnos mawr yn y pentref, bu tîm Lleol ar ymweliad â'r ysgol leol i glywed am y paratoadau a'r edrych ymlaen. Mr Richard Jones, Prifathro, Ysgol I.D. Hooson:
"Tydi'r pentref ddim yn hollol wybodus o beth yw ystyr yr Å´yl Gerdd Dant.
"Dyw'r Rhos ddim yn enwog am Gerdd Dant, er bod pobl fel Mair Carrington Roberts ac Aled Lloyd Davies wedi bod yn cynnal gweithdai gyda'r plant.
"Ond rydym i gyd yn edrych ymlaen at gael yr Å´yl yma ac mae'n rhywbeth gwahanol i'r plant.
"Rydym wedi bod yn gwneud Alawon Gwerin yma dros y blynyddoedd.
"Ond mae hyn rhoi pwrpas ychwanegol iddo ac mae'r Å´yl Gerdd Dant yn mynd i roi hwb i'r syniad o Alawon Gwerin yn yr ysgol."
Osian:
"Byddwn yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth Parti Alaw Werin a hwn fydd y tro cyntaf i ni gystadlu yn yr Å´yl Gerdd Dant.
"Rydym wedi bod yn ymarfer yn galed ers amser ac yn edrych ymlaen yn awr. Byddwn yn trio ein gorau."
Gethin:
"Rydym wedi bod yn ymarfer drwy'r tymor. Mae'r plant eraill yn dod i alw amdanom ac rydym yn ymarfer gyda Mr Richard Jones.
"Rydym wedi bod yn ymarfer yn ystod amser ysgol ac rwyf wedi mwynhau."
Catrin:
"Mae 12 ohonom o Flwyddyn 5 a 6 yn y côr. Rydym wedi cystadlu yn yr Urdd o'r blaen ac yn cael llwyddiant fel arfer!
Elen:
"Bu'r ysgol yn cymryd rhan mewn Cymanfa Ganu hefo Martyn Geraint ar gyfer rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol.
"Roeddem yn y Stiwt drwy'r dydd gyda nifer o ysgolion eraill ac roedd hynny'n hwyl."
Canlyniadau Gŵyl Gerdd Dant 2006
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |