Dechreuodd y pafiliwn ei fywyd fel neuadd arddangos yn Lerpwl. Cafodd ei ail-adeiladu yng Nghorwen a'i agor yn swyddogol ym 1913.
Cafodd yr adeilad ei ymestyn ym 1919 gan i'r Eisteddfod Genedlaethol ddod i Gorwen. Erbyn cau roedd y pafiliwn yn medru dal 1,200.
Ym 1929, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol gyntaf erioed Urdd Gobaith Cymru yn y Pafiliwn. Daeth Eisteddfod yr Urdd yn 么l i'r pafiliwn ym 1946, y gyntaf ar 么l yr Ail Ryfel Byd.
Ym 1937 dathlwyd coroni'r brenin Si么r VI gyda the-parti yn y pafiliwn.
Ym 1951, 1974 ac yn yr 80au, cynhaliwyd pedair Eisteddfod Cadair a Thalaith Powys yn y Pafiliwn. Ym 1978 ac yn yr 80au a'r 90au cynhaliwyd tair G诺yl Gerdd Dant Cymru yma.
Yn y 70au a'r 80au daeth y Pafiliwn yn enwog fel man perfformio i grwpiau Cymraeg. Un o'r mwyaf adnabyddus oedd Edward H. Dafis, band arloesol oedd yn bodoli rhwng 1973 a 1980.
Cafodd cyfarfodydd gwleidyddol eu cynnal yn y Pafiliwn dros y blynyddoedd gyda David Lloyd George ac Aneurin Bevan ymysg y rhai a fu'n areithio yno.
Bu'r c么r merched lleol, C么r Merched Edeyrnion, yn ymarfer a pherfformio yn y Pafiliwn sawl gwaith dros y blynyddoedd. Dywedodd Sheila Hughes, aelod o'r c么r: "Dwi'n teimlo'n flin am y ffaith nad yw'r Cyngor Sir wedi edrych ar 么l y Pafiliwn. Mae'n adeilad sy'n bwysig yn hanesyddol drwy Cymru. Petai'r lle wedi cael ei moderneiddio i greu adnoddau addas i'r gymuned efallai byddai dal ar agor i ni."
Roedd y c么r wedi golygu cynnal cyngerdd gyda C么r Meibion Glyndwr yn y Pafiliwn ym mis Mehefin ond maent yn awr yn gorfod dod o hyd i le arall i berfformio.
|