Yn 1834 cyflwynwyd Deddf Newydd y Tlodion a greodd gyfundrefn les newydd yn seiliedig ar y wyrcws. Roedd wyrcws Wrecsam ar Croesnewydd Road.
Bywyd caeth oedd bywyd y wyrcws, gyda llawer o reolau i'w parchu. C芒i gwragedd eu gwahanu oddi wrth eu gw欧r, a phlant oddi wrth eu rhieni.
Roedd rhaid i'r trigianwyr weithio'n ddigyflog yng nghaeau neu olchdy'r wyrcws. Byddai gwrthod yn arwain at ddedfryd o lafur caled.
Roedd y rheolau hyn a'r anfri a ddeuai yn sgil bod yn dlotyn wedi'u bwriadu fel ataliad. Roedd yr 'anhaeddiannol' megis cardotwyr a mamau di-briod yn cael eu trin yn llym.
"Ordered that all Vagrants admitted into this house be strictly searched by the Master and if there is found sufficient cash in their possession to furnish them with lodgings, that they be rejected."
Ceidwaid Deddf y Tlodion, Wrecsam, 26 Mawrth 1840
Roedd y gymdeithas Fictoraidd yn amlygu ochr garedicach i'r tlodion a ystyrid yn 'haeddiannol' trwy gyfrwng gweithredoedd o haelioni unigol. Rhoddodd Miss Maude Jones o Regis Place, Wrecsam geffyl siglo yn anrheg.
Gwahoddwyd y trigianwyr i Erddig gan Mr Yorke, tra aeth y Maer a'r Faeres ati i drefnu te 'cyllell a fforc' ac adloniant.
Byddai William Bragger, sef y meistr rhwng 1857 a 1863, yn prynu teganau a theisennau i'r plant yn aml.
Am ei fod mor garedig, cafodd ei feirniadu gan y Ceidwaid am wneud wyrcws Wrecsam yn 'dalcen meddal'; gan ddweud bod yn well gan y tlodion fyw yn y wyrcws na cheisio ennill bywoliaeth oddi allan iddo.
Ni fyddai plant yn gorfod derbyn cyfrifoldeb am eu sefyllfa a ch芒i'r plant oedd yn cael eu geni yno eu cofrestru fel rhai a anwyd ym 'Mhlas Panton' i guddio eu gwir gefndir.
Roedd ysgol yn y wyrcws a ch芒i'r plant h欧n eu hanfon i weithio fel gweision neu forynion neu fel prentisiaid.
Dyngarwch
|