Teithiodd ar hyd yr hen ffordd i Wrecsam dan gyfres o fw芒u addurnedig. Roedd pob man wedi'i addurno gyda fflagiau a m芒n faneri.
Roedd sawl baner yn datgan teyrngarwch i'r goron ac yn cyfarch y frenhines mewn Cymraeg a Saesneg.
Daeth tyrfaoedd, gan chwifio hetiau a hancesi, i'w chyfarch wrth i'r Frenhines Fictoria fynd heibio yn y cerbyd brenhinol, gyda'i gosgordd o filwyr a'i gweision Indiaidd, a theithio trwy strydoedd gorlawn Wrecsam.
Derbyniwyd y frenhines gan y maer a rhai o enwogion lleol ar ddarn o dir caeedig ym Mharc Acton, tra oedd y cyfranwyr cyfoethog, a brynodd yr addurniadau, yn cael eistedd yn y seddau gorau.
Wedyn, gwrandawodd y frenhines ar g么r o bedwar cant o leisiau, ynghyd 芒 rhagor na 10,000 o blant yr ysgolion Sul, yn canu fersiwn arbennig o'r Anthem Genedlaethol.
Derbyniodd pob un o'r plant fathodyn coffaol i ddathlu'r achlysur. Dridiau yn ddiweddarach cafodd y maer ei urddo'n farchog am drefnu achlysur mor rhwysgfawr.
Yn 么l i'r dechrau
|