Yr wythnos ddiwethaf ar Stiwdio ar Radio Cymru, dywedodd Gethin Wyn Jones, Cymro ifanc sy'n gweithio i Damien Hirst wrth ei waith bob dydd, fod gan artistiaid Cymru ormod o obsesiwn gyda Chymreictod traddodiadol yn eu gwaith.
Mae'n debyg mai'r Lle Celf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yw'r lle gorau i fesur faint o wirionedd sydd i'w honiad.
Tybed faint o ddelweddau o lechi a defaid fyddai i'w gweld eleni?
Yn sicr dydy Cymreictod ddim yn obsesiwn yng ngwaith Gethin Wyn Jones ei hun, sydd 芒 thri llun enfawr yn yr arddangosfa - gweithiau amryliw yn seiliedig ar batrymau o sgwariau llachar.
Ac nid Cymru sy'n dod i'r meddwl wrth edrych ar waith enillydd y Fedal Aur, Emrys Williams, chwaith, ond rhyw fyd ffantas茂ol o F么r-ladron ac ynysoedd pellennig.
Tri darlun olew enfawr enillodd y brif wobr i Emrys Williams, ac o'r dychymyg y daw ei dirluniau, nid o dir a daear Cymru.
"Does gen i ddim diddordeb mewn dathlu daearyddiaeth," meddai'r artist o Gaerdydd. "Rwy'n creu darnau yn y stiwdio a dydyn nhw ddim yn deillio o un lleoliad neu le."
Emrys Williams - dim diddordeb mewn dathlu daearyddiaeth.
Ni chawn wybod
Mae yna leoliadau daearyddol pendant i waith fideo Stefan Gant, sydd wedi ennill Canmoliaeth Uchel eleni -campfa a phwll nofio, ond ni chawn wybod ble maen nhw.
Delweddau agos o wynebau dynion sy'n ymdrechu i godi pwysau, a bachgen yn oedi ar ben bwrdd blymio mewn pwll nofio - mae digon o hiwmor yn y gwaith, ac yn 么l yr ymateb yn y Lle Celf ar y dydd Sadwrn agoriadol, mae'n amlwg eu bod nhw'n atyniad poblogaidd hefyd.
Mwy traddodiadol
Testun mwy traddodiadol sydd i ffotograffau Gareth Roberts o olygfeydd deniadol yn y gogledd. Ond mae defnydd anarferol y ffotograffydd o liw yn ei waith yn trawsnewid y lleoliadau, gyda Rhaeadr Ogwen yn llachar o wyn yn erbyn glas cyfoethog yr awyr.
Ac er mai llun o gerrig yr Orsedd ar faes yr Eisteddfod sydd gan Manon Awst a Benjamin Walther yn Ehangwr 4, eto mae defnydd trawiadol o liw, a'r ffigwr tebyg i ysbryd sy'n clymu gwl芒n coch o amgylch un o'r meini yn golygu ein bod ymhell o ffotograffau newyddiadurol Geoff Charles o'r Eisteddfod, er enghraifft.
Llun ysgytwol
Ar 么l fy ymweliad brysiog cyntaf 芒'r Lle Celf fore Sadwrn, roeddwn yn ei chael hi'n anodd anghofio un llun ysgytwol gan Betina Skovbro.
Darllenodd y ffotograffydd o Gaerdydd yn y South Wales Argus am ddyn oedd yn dad balch i ugain o blant, ac aeth ati i ddod i adnabod y teulu, a chofnodi eu bywydau 芒 chamera.
Ond nid y ddelwedd o Mike yn diweddaru'r tat诺s ar ei gefn gydag enw'r ugeinfed plentyn oedd y mwyaf trawiadol i mi ond llun o un o'r plant.
Yn ddwy neu'n dair oed, gyda'i mam yn brysur yn tecstio ar y soffa yn y cefndir, mae hi'n codi can o lagyr at ei gwefusau.
Ydyn ni wir yn gweld plentyn mor ifanc yn yfed alcohol?
Ai bod yn ddireidus o flaen y camera mae hi?
Mae'r bag plastig yn llawn caniau gwag yng nghornel yr ystafell yn awgrymu ei bod hi'n dynwared ymddygiad yr oedolion o'i chwmpas.
Waeth beth yw'r gwirionedd, mae'r llun wedi aflonyddu arnaf ac wedi ysgogi awydd i weld mwy o waith Betina Skovbro.
Dymis cerameg
Digon tebyg i blant o ran maint yw dymis rhyfedd cerameg Daniel Allen, ond mae eu hwynebau trasig a'u breichiau prosthetig yn dwyn i gof ddioddefwyr ar ddiwedd rhyfel.
Penglogau cerameg o sgwarnogod ac adar, rhai ohonyn nhw 芒 choed yn tyfu o'u clustiau, sydd gan Catrin Howell o Drefach Felindre.
Ar y rhaglen Tocyn Wythnos ar Radio Cymru ar nos Sadwrn roedd yr artist Catrin Williams yn siomedig nad oedd y Fedal Aur am Grefft a Dylunio wedi'i dyfarnu eleni ac yr oedd hi o'r farn bod yr anifeiliaid hudolus hyn yn llawn haeddu'r wobr.
"Rhyw deimlad o d茅j脿 vu," meddai'r beirniaid wrth ystyried y gweithiau crefft eleni a achosodd iddyn nhw atal y wobr, ar 么l "trafodaeth helaeth".
Byddai'n braf cael clywed mwy o'r drafodaeth honno yn gyhoeddus.
"Yr unig le yn yr Eisteddfod ble mae yna arloesi," meddai'r colofnydd Cris Dafis yr wythnos ddiwethaf am y Lle Celf.
Efallai byddai ambell lenor, neu gerddor o Faes B yn dadlau gyda'r dadansoddiad hwnnw. Ond heb os mae ymweliad 芒'r Lle Celf yn dangos bywyd Cymru ar ei fwyaf amrywiol a chreadigol, yn ddoniol ac yn drasig, yn ffantas茂ol ac yn boenus o real.
Wrth i fi adael y Lle Celf, ar 么l ail ymweld bnawn Sadwrn, pwy oedd yn rhuthro tuag yno yn frwdfrydedd i gyd, ar d芒n i weld yr arddangosfa ond Gethin Wyn Jones.
Da gweld bod cael arddangos ei waith ei hun ar faes yr Eisteddfod yn rhoi llawer mwy o wefr iddo na gweithio i enfant terrible enwoca'r byd celf fodern.
Gobeithio hefyd iddo gael hwb i'r galon o weld nad oes yna'r un ddafad yn agos at y Lle Celf - eleni, o leiaf.