[an error occurred while processing this directive]
|
|
|
Archdderwydd yn ceryddu Cicio pêl-droedwyr mud fel postyn |
|
|
|
Mehefin 16, 2007.
Cafodd ei arwyr ar y maes pêl-droed a rhai o'i gyfeillion yn yr Orsedd gic gan yr Archdderwydd ddydd Sadwrn.
Dangosodd Selwyn Iolen gerdyn coch i chwaraewyr pêl-droed Cymru am "sefyll yn fud fel pyst" pan fo'r anthem genedlaethol yn cael ei chanu cyn gemau rhyngwladol.
A beirniadodd yr aelodau hynny o'r Orsedd a Chyngor yr Eisteddfod sydd ddim yn cefnogi y 106 o eisteddfodau bychain a gynhelir ar hyd a lled Cymru.
Dysgu'r anthem "Dau brif ddiddordeb sy gen i - Steddfota a phêl-droed," meddai yn ei anerchiad a fyddai, oni bai am y tywydd, wedi cael ei draddodi o'r Maen Llog yn ystod seremoni cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2008.
"Onid ydi o'n hen bryd i'r bechgyn a anrhydeddir drwy gael y fraint o wisgo'r crys coch ddysgu geiriau ein hanthem genedlaethol ni a'i chanu gyda balchder ar ddechrau pob gêm," meddai.
"Chware teg i fechgyn y bêl hirgron, mae nifer go dda ohonyn nhw yn gwneud ymdrech ond mae bechgyn y bêl gron yn sefyll yno mor fud a physt gôl ac mae'n hen bryd i rywun ddeud wrthyn nhw am ymfalchïo yn y ffaith eu bad nhw yn cael y fraint o gynrychioli ein gwlad ni ac fe ddylen nhw ddangos hynny," meddai.
Eisteddfodau bach Yn gynharach yn ei araith yr oedd wedi ceryddu aelodau blaenllaw o'r sefydliad eisteddfodol am eu diffyg brwdfrydedd hwythau ynglÅ·n ag eisteddfodau bychain.
"Gaf i ofyn yn garedig y prynhawn 'ma. faint ohonoch chi aelodau'r Orsedd ac aelodau o Gyngor yr Eisteddfod ac aelodau o Lys yr Eisteddfod; faint ohonoch chi fu mewn eisteddfod leol o fewn cyrraedd i'ch cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'ma?" holodd.
"Mi wn i fod 'na ffyddloniaid yn eich mysg chi hefyd ond prin iawn ydyn nhw," meddai
Cliciwch YMA i ddarllen araith yr Archdderwydd yn llawn.
Cliciwch i weld lluniau o'r seremoni.
Cliciwch i ddarllen adroddiad o'r seremoni.
|
|
|
|
|
[an error occurred while processing this directive]
[an error occurred while processing this directive]
|