| |
Gwilym Owen - iasau Iau
Sylwadau dyddiol Gwilym Owen - y dyn sy'n clywed y cyfrinachau i gyd ar faes yr Eisteddfod. Ac yn eu rhannu wedyn!
Henffych o faes Meifod ar fore Iau.
A hen gojar digon trist ydwi i gychwyn heddiw.
Ddoe ar Radio Cymru fe glywsom ni fod ein papur dyddiol Cymraeg ar y ffordd ac y bydd yn cyflogi dros ddwsin o newyddiadurwyr.
Ond Ned Thomas bach a chriw ymchwilgar Mercato,r o ble mae'r hacs yn mynd i ddod?
Oni chlywsom ni yn narlith Eifion Lloyd Jones i Gylch yr Iaith y cyhoeddiad nad oes yr un copa walltog yn dod i Brifysgol Bangor eleni i astudio Newyddiaduraeth drwy gyfrwng y Gymraeg. A gofynnodd o ble y daw newyddiadurwyr Cymraeg y dyfodol.
Drosodd atoch chi Ned!
Western Wail A thra'n s么n am hacs. Dydi bois y Western Mail ddim yn cael llawer o hwyl arni yr wythnos yma.
Dyna ichi'r pennawd rhyfeddol yma yn rhifyn ddoe; "Revive the spirit of cooperation in Wales - First Minister tells Maes."
Dwi'n gwybod fod yr hen Rodri yn gwneud petha twp weithiau ond go brin ei fod o wedi dechra patro efo caeau. Neu falle'i fod o!
Cwrw'r achos Mae'r un papur wedi bod yn rhygnu am y ffaith fod ein Prif Weinidog hoff wedi torri rheol dim alcohol y Maes wrth goginio rhywbeth blasus ym mhafiliwn Llywodraeth y Cynulliad.
Tasa gohebwyr Caerdydd wedi cyrraedd yma bnawn Sul mi fasa nhw wedi gweld rhai o aelodau sychedig band arbennig yn llowcio caniau dirifedi o gwrw enwog oedd wedi ei gario i'r Maes mewn bagiau.
Arafa don Mae un o gerddorion enwocaf Cymru wedi bod yn chwythu ffiwsan ar y Maes gan fethu deall pam na fu i'r Sanhedrin eisteddfodol benderfynu anrhydeddu y Dr Joseph Parry yn yr Wyl hon.
Mae hi'n gan mlynedd ers ei farw a'r cyfan sydd yma medda fo ydi un gystadleuaeth bitw Unawd yr Hen Ganiadau nos Sadwrn.
Ac yn waeth byth, medda fo, dim ond un emyn d么n o waith Parry a genir yn y Gymanfa Ganu nos Sul.
Mae'n gywilyddus medda fo.
Maen i wal y Faenol Ac mi fydd Llys yr Eisteddfod yn cyfarfod y bore ma. Cyfle i'r aelodau cyffredin ddweud eu dweud efallai am drafferthion ariannol honedig y Brifwyl a'r posibilrwydd, efallai, y bydd rhywun yn codi crachen y penderfyniad i gynnal Prifwyl 2005 y tu 么l i waliau'r Faenol ger Bangor er mawr loes i bobl Pen Llyn. Steddfod Eryri gaiff hi ei galw ac yn wir mae yna faled ddychanol wedi ei chyfansoddi i Steddfod Fawr Snowdonia. Dyma'r pennill olaf:
Ni fydd yr Wyl fyth mwy yn Llyn Anghofiwyd gwerin Gwalia. Daw dydd y crach a'r pennau bach Yn Steddfod Fawr Snowdonia. Y mawrion aeth 芒'r maen i'r wal Ac anwybyddwyd ninnau Fe floeddir Heddwch uwch ein llwch Yn Steddfod Fawr Snowdonia.
Gosteged y gwynt A chwestiwn bach i Robyn Llyn a J芒ms Niclas. Oni ddaeth hi'n amser dileu'r gwastraff amser blynyddol ar bnawn y Coroni pan estynnir croeso hirwyntog a dibwrpas i gynrychiolwyr y gwledydd Celtaidd.
Faint mae'r ymarferiad yma yn ei gostio a faint o werth sydd yna mewn anfon yr etholedig rai o blith Gorseddigion Cymru i ymweld 芒 gwyliau ceiniog a dimai yn yr Alban, Iwerddon, Cernyw, Ynys Manaw, Llydaw a chyn bo hir, mae'n siwr, Patagonia.
Fel bysa Ifas y Tryc yn deud Dowch, dowch; cyt ddy comics! Tan yfory - gweinier y cledd.
|
|
|
|