Cri yn erbyn y stomp y mae dyn yn ei wneud o'r "trysor bendigedig" o fyd a roddwyd iddo yw'r dilyniant o gerddi a enillodd i Geraint Lloyd Owen Goron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011.
Coron a wnaed gan ei hen gyfaill John Price o Fachynlleth, a oedd yno ar faes y steddfod i longyfarch y Prifardd newydd.
Dywedodd Geraint fod ganddo'n barod dair o'i goronau o eisteddfodau llai, "ond dim byd tebyg i hon", meddai.
Disgrifiodd y prifardd ei hun fel un a fu, yn 么l ei gyfaddefiad ei hun, yn breuddwydio "ac yn bustachu i ennill rhywbeth fel hyn" ers blynyddoedd lawer.
Y mae ei frawd, Gerallt Lloyd Owen, yn brifardd yn barod, wrth gwrs.
Eglurodd Geraint i'r ysbrydoliaeth i'w ddilyniant o gerddi ar y testun gosodedig, Gwythiennau, gael eu sbarduno yn y lle cyntaf gan ardd achau ei deulu sydd ganddo ar wal ei gegin. Gardd achau sydd yn mynd yn 么l hyd at Merfyn Brych, tad Rhodri Mawr, ac ymhellach wedyn i'r chweched ganrif a Llywarch Hen.
"Rydw i wedi bod yn sb茂o ar honna ac rydych yn gweld y llinellau a'r enwau yn mynd yn llorweddol ac yn fertigol a dyma fi'n meddwl, dyna wythiennau teuluol yn y fan yna a dyma fi' n meddwl y gallwn i wneud rhywbeth o hwnna.
"Ond am mai dilyniant oedd hi, nid casgliad , yr oedd yn rhaid imi gael rhyw linyn ac wedyn mi es i o'r wyth茂en deuluol i'r wyth茂en gymdeithasol ddiwylliannol i'r wyth茂en grefyddol, i'r wyth茂en ieithyddol ac yna wedyn mi ddois i a nhw i gyd at ei gilydd .
"Rydw i yn meddwl," meddai, "ac mae rhywbeth yn drist iawn ynof i, yn meddwl fod y gwythiennau yma yn crebachu a bod y gwaed ynddyn nhw yn ceulo. Maen nhw'n crebachu, maen nhw'n ceulo oherwydd dyn, oherwydd chi a fi yn gwneud 'mes' o'r trysor bendigedig yma sef y byd."
Yn fardd sy'n gofidio bod hen ffordd gymdogol o fyw yn diflannu darluniodd hynny mewn cynhadledd i'r wasg wedi ei goroni ar sail ei brofiad personol o gael ei fagu mewn siop bentref - cyn dyfodiad archfarchnadoedd - mewn cyfnod pan oedd gwerth i gymdogaeth dda.
"Yr oedd gan fy nain (a oedd yn caw siop) gonsyrn am bobol ," meddai gan ychwanegu bu dyfodiad y siopau mawrion yn ddifodiant y siopau bychain hynny a oedd yn ganolfannau cymdeithasol ac yn "Athen dysg".
"Ac y mae hwnna yn drueni cymdeithasol."
"Ac y mae hwnna yn drueni cymdeithasol."
Bu'n dyst hefyd i'r un math o ddifodiant yn yr amgylchedd.
"Pan oeddwn i'n hogyn yn y Sarnau roedd yna gors yno. Roedd yna ddyfrgwn yn y gors ac mi allwn i fynd a chi heddiw i lle roedd eu daearau nhw a lle'r oedd y berw wedi cau dros y merddwr ac roeddech chi'n gallu gweld y llwybr lle'r oedd y dyfrgi yn pasio yn 么l ac ymlaen.
Heddiw, beth sydd yna? Hen bramiau Tesco, hen fatresi. Dyn yn taflu budreddi i mewn i'r pethau yma a'r afon wedi marw - a'r dyfrgi .
"Mae ein capeli ni wedi cau am bod yna hen bobol styfnig - a dwi'n flaenor fy hun - yn glynu wrth ddoe a gwrthod gollwng gafael a symud ymlaen ac mae 'o'n ddirywiad. Mae'r wyth茂en grefyddol yna yn cael ei mygu a'i magu," meddai.
"Mae yna ffordd o fyw wedi mynd," meddai.
Dywedodd mai dim ond rhan o'r ateb sydd ganddo ef;
"Dydi'r gwirionedd i gyd ddim gennai," meddai, "ond rhan o'r ateb ydy bod yn rhaid inni roi llawer iawn mwy o le i'n plant a'n pobl ifainc ni yn ein capeli ac mae'n rhaid inni symud ymlaen. Ryda ni'n gallu eu cadw nes maen nhw yn wyth, naw, oed, ond unwaith maen nhw wedi mynd i'r ysgol uwchradd maen nhw wedi mynd o'ch gafael chi. mae rhywbeth mawr o'i le fan yna. Dyda ni ddim yn eu porthi nhw efo rhywbeth ag awydd i gael mwy ohono fo," meddai.
Mewn cystadleuaeth o 36 - gydag un wedi ei ddiarddel am gyfansoddi ar gynghanedd - yr oedd y beirniaid mewn rhywfaint o gyfyng-gyngor gyda mwy nag un yn deilwng o'r wobr medden nhw.
Ond yr oedd cytundeb hefyd bod ymgais O'r Tir Du gan Geraint Lloyd Owen yn haeddu'r wobr gyda Gwyn Thomas yn disgrifio'r ymgais fel "cerddi am ardal Gymraeg, yn bennaf, a'r hyn sy'n digwydd i wythiennau ei bodolaeth - a'n bodolaeth ar raddfa ehangach."
Mwy
Blogiau 91热爆 Cymru
:
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.