Cadeirio yn goron - dydd Gwener yn Wrecsam
05 Awst 2011
![Rhys Iorwerth a'r Archdderwydd](/staticarchive/8daed1943a72cfc5a0f0cbd27fa686b7a07f9df6.jpg)
Glyn Evans yn pwyso a mesur diwrnod arall yn y Steddfod
Bydd yn rhaid disgwyl rhai blynyddoedd cyn y byddwn yn gwybod yn iawn ai proffwyd ynteu dyn a aeth dros ben llestri yw Emyr Lewis.
Disgrifiodd yn ei feirniadaeth y pnawn yma y bardd cadeiriol fel "Dafydd ap Gwilym wedi atgyfodi yng Nghymru 2011".
Mae'r bardd ei hun, Rhys Iorwerth, er mor ifanc ydi o, i'w edmygu am fod ddigon call i ymwrthod 芒'r disgrifiad.
"Fydda i ddim yn mynd o gwmpas yn galw fy hun yn Ail Dafydd ap Gwilym," medda fo.
Amlygai hyn y cyfrifoldeb sydd yna ar ysgwyddau beirniaid wrth lunio canmoliaeth. Gallai disgrifiad o'r fath fod yn fodd i ddifetha bardd nad yw ei draed mor sad ar y ddaear a Rhys Iorwerth trwy greu disgwyliadau sy'n ormod o bwn ar ysgwyddau.
![](/staticarchive/5182b0016413d073ad9b77b280055f8e0975f5cd.jpg)
Ond does dim osgoi y ffaith na wnaeth y bardd ifanc 28 oed argraff fawr ac yr oedd gwefr arbennig mewn bod yn dyst ar y maes i boblogrwydd ei fuddugoliaeth.
Bonllefau o gymeradwyaeth hyd yn oed y tu allan i'r pafiliwn.
A chriw o ferched ifainc glandeg yn gwthio yn erbyn ei gilydd i dynnu ei lun wrth iddo gamu i'r maes o'r Pafiliwn wedi'r seremoni ochr yn ochr 芒'r Archdderwydd.
Buddugoliaeth gyda'r ymateb mwyaf brwd iddi ers blynyddoedd ac yn brawf y gall yr hen, hen, seremoni hon gipio o hyd ddychymyg yr ifainc.
Ac mor hyfryd sylweddoli fod bod yn fardd ifanc llwyddiannus yn parhau o hyd yn rhywbeth rhamantus yng ngolwg ieuenctid c诺l yr unfed ganrif ar hugain.
Dim rhyfedd bod yr haul yn gwenu.
A gw锚n ar wyneb yr Archdderwydd yntau wrth iddo ddatgan bod y gynghanedd yn ddiogel am flynyddoedd i ddod ar 么l clywed bod pedwar yn y gystadleuaeth eleni y gellid eu Cadeirio.
Oedd, os maddeuwch yr ymadrodd, yr oedd y Cadeirio hwn yn goron ar wythnos nodedig - ac mae fory eto i ddod ar gyfer rhyw un ffling Eisteddfodol arall.
![](/staticarchive/c507fbae6dd2787ffc3f162d10cdd0941165d5b5.jpg)
Ar y maes
I'r maes heddiw daeth 23,428 o bobl, cryn dipyn yn fwy nag ar gyfer y cadeirio yng Nglynebwy y llynedd, 17,294, a dim ond fymryn yn llai na'r 24,166 yn Y Bala yn 2009.
Hynny er gwaethaf y cruglwyth cwynion sy'n parhau am brisiau mynediad - mater mae'n si诺r y bydd yr Eisteddfod dan orfodaeth i'w drafod rhwng hyn a Bro Morgannwg.
Llenwi twll
Gan droi ein golygon tuag at Faes arall, rhywun a'i wynt yn ei ddwrn yn dweud wrthyf mai Stan Boardman, y comed茂wr o Lerpwl gyda'r ymadrodd "the Geeemans bombed our chippy" a enillodd Gystadleuaeth golff y Steddfod.
Dywedodd ei fod yn aelod gwrs Clays ger Wrecsam lle cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni ac efo fo ar y cwrs yr oedd Denis Taylor y chwaraewr snwcer.
Gwybodaeth i lenwi twll ym mywyd sawl un ohono chi!
Blogiau 91热爆 Cymru
:
![Nia Lloyd Jones](http://www.bbc.co.uk/cymru/blogiau/images/users/nia_lloyd_jones.jpg)
Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...
Holl ganlyniadau, clipiau fideo a blogiau o Brifwyl 2012.