91Èȱ¬

Genedigaeth

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Cyflwyniad i'r Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig, Caerdydd.

Cawn ein cyflwyno i Sister Siân Rees sy'n gweithio fel Prif Weinyddes Nyrsio yn Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig, Ysbyty'r Brifysgol Caerdydd. Yna gwelwn Dr Cybil Barr yn egluro gwaith yr uned a gwaith Sian Rees yn arbennig. Gwelwn Siân wedyn yn myfyrio ar effaith colli babi ar rieni a chawn awgrym ei bod yn deall y profiad yn iawn.
O: O'r Galon - Babis Bach Siân
Darlledwyd yn gyntaf : 28 Tachwedd 2006

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Twf a Datblygiad Dynol, Perthnasau a Theuluoedd

Allweddeiriau : Twf dynol, Anghenion ofal unigolion, Babanod a Phlant, Gwasanaethau sylfaenol gofal ac iechyd,Uned Gofal Dwys Babanod Newydd-anedig

Nodiadau : •Disgrifiwch rôl Siân yn yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Prifysgol Cymru. Pa rinweddau sydd ganddi sy'n ei galluogi i wneud y gwaith hwn fel rhan o dîm amlddisgyblaethol? • Mae cryn dipyn o gymorth ar gael i rieni/teuluoedd sydd wedi colli plentyn/plant e.e. 'Cruse', 'The Compassionate Friends', 'Winston's Wish', y Samariaid ayyb. Pa fath o wasanaeth mae'r grwpiau hyn yn ei gynnig? Beth fyddai'r manteision o ddefnyddio'r cymorth hwn? Trafodwch. • Addas ar gyfer Uned 1 Anghenion Gofal Unigolion - Plant a Babanod. Gwasanaethau Sylfaenol Gofal ac Iechyd - Babandod 0-3 blwydd. Hefyd addas ar gyfer Uned 2 H &S TGAU Twf a Datblygiad Dynol. 'Y prif rolau gwaith a sgiliau darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant.' a 'Sut maen nhw'n gweithio fel unigolion a/neu mewn tîm'.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.