91热爆

Galar

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Tri teulu yn disgrifio sut mae delio gyda'r galar.

Cyfweliadau gyda rhieni Bethan, Chris (cymar Alex) a rhieni Heledd. CHRIS - Pe na fyddai wedi bod drwy'r cwnsela a dechrau siarad am y digwyddiad, byddai wedi marw erbyn hyn. Pan fo'r farwolaeth yn un drawmatig, mae pobl yn hael iawn eu cyngor. Y cyngor gorau yw peidio 芒 chymryd pob cyngor ormod o ddifrif. TAD BETHAN - Yn dweud ei bod yn bwysig peidio 芒 bod ofn siarad. 'Does dim ots os ydych chi'n torri i lawr, achos mae'n mynd i ddigwydd'. Mae 11 mlynedd ers i Bethan farw, ac maen nhw'n dal i gael 'plyciau o dorri i lawr.' Mae'n dweud na ddylid bod ofn torri i lawr ac na ddylid cuddio'r galar 'chwaith. MAM BETHAN - Dylid cymryd pob diwrnod fel y daw ac na ddylid gadael i unrhyw un eich gwthio i wneud unrhyw beth nad ydych chi eisiau ei wneud. Dylid peidio 芒 chynllunio. Dylai'r person gael gwneud fel y mynnan nhw nes byddan nhw'n teimlo'n gyfforddus i symud ymlaen. MAM A THAD HELEDD - Mae'n rhaid i chi siarad am y person, pethau sydd wedi digwydd, a chofio sut berson oedden nhw. Maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw lawer o atgofion hapus, ac mae ail-fyw'r profiadau hynny'n dod 芒 gwen i'w hwynebau nhw. Maen nhw'n edrych ar y lluniau ar y wal ac yn siarad 芒 Heledd drwy'r lluniau. Mae ei thad yn dweud, 'Fel 'na fyddai Heledd moyn i ni 'neud, wy'n gweud wrth y wraig yn aml, ac mae'r wraig yn cytuno 'da fi.'
O: O'r Galon - Galar
Darlledwyd yn gyntaf : 7 Ebrill 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Iechyd Meddwl, Galar, Perthnasau a Theuluoedd

Allweddeiriau : Colli plentyn, Colli cymar, Cownsela. Marwolaeth. Trawmatig, Cyngor, Iselder, Galaru, Anghenion gofal unigolion

Nodiadau : 鈥ut yn eich barn chi mae siarad am deimladau yn gallu bod o fudd i unigolion sy'n galaru? 鈥a fath o gymorth a geir gan elusennau fel CRUSE?


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.