91Èȱ¬

Cychwyn y Cwrs

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Dioddefwr o atal dweud yn edrych ymlaen at ddechrau cwrs Mcguire.

Mae Martin yn cychwyn y cwrs (Rhaglen McGuire) ac fe'i dilynwn yn ystod deuddydd cyntaf y cwrs. Gwelwn Martin yn cerdded ar y stryd ac yna yn ei ystafell wely mewn gwesty. Mae'n dweud ei bod hi'n mynd i fod yn wythnos anodd, ddidrugaredd. Gwelwn gyflwyniad Alan Jones i'r cwrs a chlipiau o'r diwrnod cyntaf. Mae Martin yn dweud ei enw ac Alan yn dysgu Martin sut i anadlu. Ceir cyfweliad gydag Alan Jones sydd wedi dilyn y cwrs ei hun, ac mae e'n dweud bod y rhaglen wedi gweithio iddo. Diwrnod dau - heddiw maen nhw'n dysgu sut i anadlu. Mae'r cwrs yn bodoli ers 1994. Cafodd ei gynnal yn gyntaf gan Dave McGuire yn yr Iseldiroedd. Erbyn hyn, mae'n cael ei gynnal yn rhyngwladol. Yn ôl Alan nid yw'r rhaglen yn gweithio i bawb, ond gwelwn yn barod ei bod yn cychwyn gweithio i Martin. Mae Alan yn dweud bod a wnelo'r dull â chyswllt llygad ac anadlu. Mae hefyd yn dweud ei fod yn rhywbeth seicolegol sy'n effeithio ar y diaffram.
O: O'r Galon - Martin Thomas
Darlledwyd yn gyntaf : 17 Mawrth 2007

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Cyfathrebu, Deall Afiechydon,Clefydau ac Anhwylderau Cyffredin

Allweddeiriau : Atal dweud, Cwrs McGuire, Anadlu costal, Problemau cyfathrebu, Therapi,

Nodiadau : •Mae Rhaglen McGuire yn cael ei defnyddio ar draws y byd. Gwnewch waith ymchwil a nodwch bum pwynt pwysig ynglŷn â'r rhaglen a'r canlyniadau a geir o wneud y cwrs hwn. • Mae Project Starfish hefyd yn gynllun sy'n rhoi cymorth i bobl ag atal dweud. Sut mae'r ddau gwrs yn wahanol? •Ymchwiliwch sut mae'r math yma o therapi cyflenwol yn gweithio. Gwnewch hynny drwy ddefnyddio'r we a'r llyfrgell ayyb. Canfyddwch beth yw barn arbenigwyr iechyd ar driniaethau amgen fel hon.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.