91Èȱ¬

Frank Letch - Delfryd Ymddwyn

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Gwaith Frank gyda'r elusen 'REACH'

Sgwrs gyda Frank Letch lle mae'n egluro sut mae'r elusen 'Reach' yn rhoi hyder i blant ag anableddau. Gwelwn Frank yn croesawu teulu o Iwerddon i'w gartref. Mae ganddyn nhw fab,Theo, a gafodd ei eni heb freichiau - fel Frank ei hun. Roedden nhw wedi cysylltu â Frank drwy Reach. Eglura tad Theo fod cyfarfod Frank wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau. Yna gwelwn Frank yn gwneud araith - mae'n meddwl yn ôl dros ei fywyd ac yn datgan ei fod wedi darganfod paradwys a heddwch yn ei fywyd unwaith eto.
O: O'r Galon - Frank Letch
Darlledwyd yn gyntaf : 12 Ionawr 2010

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Deall Unigolion gydag Anableddau, Twf a Datblygiad Dynol

Allweddeiriau : Anghenion gofal unigolion, Pobl anabl, Rolau gwaith y darparwyr gofal, Rolau gwaith mewn tîm, REACH, Thalidomide, Anabledd

Nodiadau : Sut mae'r ffaith bod Frank wedi derbyn ei anabledd, ynghyd â'i ragolwg positif ar fywyd, wedi ei helpu i fyw bywyd llawn boddhad? • Pam yn eich barn chi mae Frank yn gymaint o ddelfryd ymddwyn i blant sy'n cael cymorth gan yr elusen Reach? • Darganfyddwch fwy am yr elusen Reach ('Association for Children with Upper Limb Deficiency'). • Defnyddio clip yn Uned 1 TGAU Anghenion Gofal Unigolion - Pobl anabl.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.