91Èȱ¬

Lowri

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Cwrdd â Lowri sy'n dioddef o OCD

Mae'r actor Llion Williams yn cwrdd â Lowri sy'n astudio ym Mhrifysgol Bangor ac yn dioddef o'r anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD). Mae hi'n sôn am ei hobsesiwn golchi dwylo, gan fod ganddi 'obsesiwn germau', ac yn trafod ei theimlad bod yn rhaid iddi hi gau llenni a chyfri i ddeg. Os nad yw'n gwneud hynny, bydd arni ofn bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd i rywun sy'n annwyl iddi. Os nad yw'n llwyddo i wneud hyn yn iawn y tro cyntaf, mae'n rhaid iddi ail wneud y broses drosodd a throsodd nes ei bod yn hapus. Cawn ein cyflwyno i Keith Fearns, seiciatrydd sy'n gweithio'n agos â Lowri. Mae e'n ceisio gweithio drwy'r syniadau sydd gan Lowri ynglŷn â niweidio rhywun gyda chyllell a chael y syniadau allan o'i phen. Ceir clip yn dangos sut mae Keith yn mynd trwy'r broses hon gyda Lowri. Mae Keith yn credu bod yn rhaid gweithio drwy'r rhagfynegiad hwn, a'i fod yn 'syniad brawychus'. Mae'n dweud mai'r person gydag OCD fyddai'r person olaf i niweidio rhywun. Dychwelwn yn ôl at sgwrs rhwng Lowri a Llion. Mae Lowri'n dweud, 'nid ti yw'r person ... yr OCD yw e.'
O: O Flaen dy Lygaid - ac Eto nid Myfi
Darlledwyd yn gyntaf : 6 Gorffenaf 2010

Nodiadau Dysgu

Ystod Oedran : 14-16,16+

Pwnc : Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Testun : Iechyd Meddwl, Deall Afiechydon,Clefydau ac Anhwylderau Cyffredin

Allweddeiriau : Anhwylder Obsesiynol Cymhellol, OCD, Obsesiwn, Egwyddorion gofal, Therapi, Seiciatreg

Nodiadau : •Mae OCD (Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol) yn gallu effeithio ar bobl mewn nifer o wahanol ffyrdd. Ymchwiliwch i achosion gwahanol o OCD mewn oedolion a phlant. Trafodwch y canlyniadau. • Pa fath o gymorth arall fyddai ar gael i Lowri i'w helpu i ddelio â'i hafiechyd meddwl / OCD? •Darganfyddwch fwy am OCD •Sut mae OCD yn effeithio ar ansawdd bywyd y dioddefwyr? Cyfeiriwch at agweddau corfforol, deallusol, emosiynol a chymdeithasol (PIES). • Darganfyddwch fwy am Therapi Ymddygiad Gwybyddol - gweler am ragor o wybodaeth.


Archif Eclips

eclips

Ydych chi angen pynciau eraill? Eisiau gweld rhagor o glipiau? Ewch i wefan archif Eclips.

Clipiau Diweddar


91Èȱ¬ iD

Llywio drwy’r 91Èȱ¬

91Èȱ¬ © 2014 Nid yw'r 91Èȱ¬ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.