Y mae Hywel Jones wedi mabwysiadu gorsaf drenau Llanwrda, yn gyfrifol am y blodau yno.
"Fe wnes i fabwysiadu gorsaf drên Llanwrda gan taw dyma'r unig orsaf oedd heb ei mabwysiadu rhwng Llandeilo a Llanymddyfri ym Mehefin 2004. Yr oeddwn yn teithio ar drên i'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, pan wnes gyfarfod ag un o benaethiaid Trenau Arriva Cymru. Deallodd fy mod yn frwd am dyfu a dangos blodau mewn sioeau, ac fe ofynnodd i mi a fyddem yn fodlon mabwysiadu gorsaf Llanwrda, oherwydd roedd yr orsaf yn weddol noeth o ran blodau. Cymerais at y gwaith yn fuan.
"Rwyf yn ymweld â'r orsaf yn wythnosol, yn cynnal a chadw y gerddi bach blodau, a rhoi gwybod i Trên Arriva Cymru am unrhyw ddifrod, fandaliaeth neu adfeiliad. Os oes yna fandaliaeth neu ddifrod yna rhaid cysylltu â'r Heddlu Trafnidiaeth.
"Ers mabwysiadu'r orsaf, rwyf wedi cwrdd â llawer yn mynd neu'n dod o'r trên a mor falch ydynt i weld y gerddi bach yn llawn blodau, yn enwedig yn yr haf.
"Rwyf yn mwynhau'r gwaith yn fawr iawn, yn enwedig yn nosweithiau'r haf , ble mae yna dawelwch, a natur yn ei holl ogoniant, adar yn canu ac mae'n rhoi esgus i mi fynd allan am "run" i'r orsaf ar y 1952 Fergi fach llwyd sydd gennyf, gyda offer yr ardd yn y transport box."
Yn ogystal â gofalu am orsaf drenau Llanwrda, mae Hywel Jones yn wyneb adnabyddus mewn sioeau o amgylch de orllewin Cymru a thu hwnt, ers dros ugain mlynedd. Erbyn hyn, nid cystadlu yn unig sy'n mynd â'i fryd, ond mae ei brofiad helaeth ym myd garddio yn ei alluogi i fod yn un o'r beirniaid hefyd.
"Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf yn cystadlu yn y sioeau mawr, er enghraifft Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, Sioe Cymdeithas Gorllewin Dahlias Cymru yn Nantgaredig a Sioe y Siroedd Unedig yng Nghaerfyrddin. "Mae'r amser yn brin i gystadlu oherwydd fy mod yn brysur, ar gyfartaledd rwyf wedi beirniadu mewn pymtheg sioe yn y blynyddoedd diwethaf. Hyd yn hyn, rwyf wedi cytuno i farnu mewn chwech sioe eleni. Mae eisiau cefnogi sioeau bach pentrefi cefn gwlad Cymru, er mwyn iddynt gael dyfodol llewyrchus. Cliciwch yma i ddarllen cyngor garddio Hywel Jones - blodau pob tymor.
|