91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Caerfyrddin

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Caerfyrddin
Disgyblion Ysgol St Mary's yng Nghaerfyrddin Urdd: Lansio Ymgyrch Canol y Dref
Ar benwythnos Gŵyl Ddewi 2007 roedd tref Caerfyrddin yn llawn bwrlwm gyda lawns swyddogol yr ymgyrch i baratoi'r dref ar gyfer Eisteddfod yr Urdd.

Ar ddydd Iau 1af o Fawrth roedd plant o 12 o ysgolion cynradd y cylch yn canu a dawnsio yn y babell fawr ar Sgwâr Nott, ger Castell Caerfyrddin.

Disgyblion Ysgol y Dderwen yn dawnsio gwerinCafwyd perfformiadau cofiadwy gan blant Ysgolion Griffith Jones, Ysgol y Fro, Ysgol Brechfa, Ysgol y Santes Fair, Ysgol Ddawns Steps, Ysgol y Model, Ysgol Llangynnwr, Ysgol y Dderwen a gan Carys Evans ar y delyn. Darllenwyd Neges Ewyllus Da ar ran pobl Caerfyrddin gan Faer y Dref. Trosglwyddwyd y neges, ynghyd â negeseuon o Dyddewi, Hendy-gwyn ar Daf ac Abertawe i'r Senedd yng Nghaerdydd erbyn diwedd y prynhawn.

Rhwng 12.30 a 1.30 cafwyd cinio yn Neuadd San Pedr a oedd wedi ei drefnu ar gyfer pobl busnes y dref. Bwriad y cinio a noddwyd gan Gastell Howell, oedd rhoi cyfle i fusnesau Caerfyrddin i ddysgu mwy am sut i baratoi ar gyfer yr Eisteddfod. Cafwyd cyflwyniadau ynglŷn â'r Urdd a thrafodaethau am wersi Cymraeg i staff, baneri a fflagiau, ac arwyddion a bathodynnau dwyieithog.

Ar ddydd Sadwrn 3 Mawrth, cafwyd cyfle i weld cyflwyniadau gan bobl ifanc Ysgolion Uwchradd ac Aelwydydd lleol yn y babell fawr ar sgwâr Nott. Cafwyd diwrnod llawn gweithgareddau gan gynnwys digon o ganu a dawnsio gan Martyn Geraint, a digon o sŵn gan fandiau roc lleol.

Trefnwyd gweithgareddau penwythnos Gŵyl Ddewi gan bartneriaeth marchnata Caerfyrddin sydd yn cynnwys yr Urdd, Cyngor Tref Caerfyrddin, Siambr Fasnach Caerfyrddin, Menter Taf Myrddin, Cynllun Gwyliau Caerfyrddin a'r Bwrdd Iaith.

Mae'r ymgyrch i baratoi canol Caerfyrddin ar gyfer yr Eisteddfod wedi dechrau. Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn â sut allwch chi archebu baneri a 'bunting' yn rhifyn mis Ebrill o bapur bro Cwlwm.


Cyfrannwch

Sioned Evans Cwmdwyfran
Roedd y Lansio Ymgyrch Canol y Dref Yn Arbennig! Daeth Fy Holl Deulu Draw At Yr Wyl Arbennig


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Bach o Bopeth
Trefi
Lluniau
Digwyddiadau


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý