Daeth tri disgbl o sir Gaerfyrddin i'r brig mewn cystadleuaeth a osodwyd i greu logo neu arwyddlun yn arbennig ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sîr Gâr 2007.
Gofynnwyd i blant a phobl ifanc dalgylch yr eisteddfod am eu syniadau a rhoddwyd y dasg o werthuso'r llu o luniau â dderbyniwyd i ddau feirniad lleol sef Julie Rees James
a Wynne Jenkins.
Wrth lunio logo terfynol, a chreu cymeriad Gari Sir Gâr, penderfynwyd cyfuno elfennau o waith tri ymgeisydd. Rhennir y wobr o gan punt, felly, rhwng Osian Tomos Jones o Ysgol Gynradd Llandybie, Nicole Lee, Ysgol Gynradd y Tymbl a Nia Nicholas o Ysgol Dewi Sant, Llanelli.
Medd Tom Dafis, Cadeirydd y Pwyllgor gwaith "Rwyf wrth fy modd â'r cymeriad hoffus hwn! Llongyfarchiadau i'r tri artist ifanc a diolch o galon i bawb sydd wedi bod wrthi'n ddiwyd dros y misoedd diwetha' i greu Gari Sir Gâr.
"Rwy'n siŵr bydd Gari'n gymeriad adnabyddus drwy'r Sir dros y misoedd nesa' ac erbyn yr Eisteddfod ym mis Mai 2007. Cofiwch gadw llygad allan amdano yn ystod wythnos y Cyhoeddi ar ddechrau Ebrill!"
Mwy am Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2007.
|