Roedd gwaith y peilotiaid yn hanfodol wrth gynorthwyo llongau i negydu y dyfroedd anodd. Roeddynt yn cael eu cyflogi oherwydd eu gwybodaeth leol i arwain y llongau mawr i mewn i'r doc drwy'r culfor bas a chul.
Roeddent yn gwybod lle'r oedd y creigiau a'r banciau tywod, pa ochr i basio'r bwiau, roeddent yn gyfarwydd â'r tywydd a'r llanw a thrai - Môr Hafren sydd â'r llanw ail uchaf yn y byd.
Nid oedd yr adeilad wedi ei adeiladu'n bwrpasol ac mae ei wreiddiau yn ddirgelwch. Nid oes neb yn rhy siŵr pam iddo gael ei adeiladu, ond efallai mai dyma'r adeilad hynaf yn y bae. Mae ei waliau trwchus yn ei wneud yn wahanol iawn i'r adeiladau cyfagos.
Mae'r hanesydd lleol yr Athro Neil Sinclair yn awgrymu efallai iddo gael ei adeiladu gan yr ail ardalydd Bute fel stablau i'r ceffylau mawr oedd yn tynnu cychod camlas ar hyd Camlas Sir Forgannwg.
Tu cefn i'r adeilad gellid gweld drysau stablau mawrion bwaog allai awgrymu hyn. Os yr edrychwch i fyny gallwch weld y bwa o hyd ond erbyn heddiw mae'r drysau wedi eu tynnu oddi yno ac yn eu lle ceir estyniad gwydr.
Gallai'r adeilad fod wedi ei adeiladu cyn hynny a chanddo gysylltiad cynharaf gyda Chamlas Sir Forgannwg a adeiladwyd yn 1790. Nid oes dim dogfennol i brofi hyn. Y cyfan a wyddwn yw ei fod i'w weld mewn tirluniad yn 1880.
Un o'r pethau mwyaf nodedig am yr adeilad yw'r ceiliog gwynt. Mae wedi ei gysylltu i'r cloc isod ac yn rhoi cyfeiriad y pedwar gwynt. Mae'r mecanwaith yn dal i weithio ond disodlwyd y ceiliog gwynt ei hun yn yr 1970au.
Trowch i'r chwith wrth basio'r TÅ· Peilot, ac yna i'r dde cyn dod at dÅ· bwyta Harry Ramsden.
Yn ôl i gychwyn y daith
|