Roeddwn i'n aros gyda ffrindiau yng Nghaerdydd yn ddiweddar, ac, ar daith trwy gymoedd de Cymru, sylweddolais ein bod ni'n gyrru yn agos i Aberfan. Er fy mod i ddim yn Gymro, roeddwn i'n gwybod yr hanes trist am y pentref 'ma a'i hysgol gynradd.
Ym mis Hydref 1966, roeddwn i'n fachgen naw oed, ac yn byw yn Llundain, felly wnes i ddim deall pa mor anferth oedd y drychineb. Yr hyn glywais i oedd bod twmpath o lo wedi cwympo i lawr mynydd yng Nghymru, ac wedi taro ysgol.
Gan fy mod i yr un oed 芒'r mwyafrif o'r plant a fu farw ar y diwrnod ofnadwy hwnnw, roeddwn i'n llawn o feddyliau yn ystod fy ymweliad ag Aberfan. Mae'n bosib fod y bobl o fy oed i a welais i yn y pentref, i fod wedi goroesi'r drychineb, roedden nhw wedi colli brodyr, chwiorydd, cyfeillion neu athrawon yna. Fe ddaeth eu plentyndod i ben yn greulon tra fy mod i'n parhau yn fy ysgol fel petai dim byd wedi digwydd. Fe gafodd cenhedlaeth gyfan o blant a'u hathrawon a theuluoedd eraill mewn cymuned fach Gymreig eu dinistrio mewn pum munud, ac roedd Llundain miliwn o filltiroedd i ffordd. Ac roedd y Llywodraeth a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn bellach fyth.
Fe barciodd fy ffrind y car, a cherddon ni trwy'r fynwent. Bedd ar 么l bedd ar 么l bedd, wedi'u cysylltu gyda'i gilydd, a barddoniaeth brydferth fel neges olaf gan rieni at eu plant, a'r un dyddiad ofnadwy wedi'i ysgrifennu ar bob bedd. Hydref yr 21ain 1966, Hydref yr 21ain 1966, Hydref ....
Heblaw am angladdau fy mam-guod a fy nhad-cuod, rwyf erioed wedi wylo mewn mynwent. Ond yn Aberfan, fe droeodd beddau cymaint o blant i mewn i un trwy fy nagrau, tra gwelais i ddelweddau o fy ysgolion fy hunan, ac ysgolion fy mhlant, yn cael eu dinistrio dan gannoedd o dunelli o wastraff glo.
Fe gyrhaeddon ni'r ardd goffa. Gardd sydd wedi cael ei chreu yn y lle a fu Ysgol Pantglas. Gardd y mae trigolion Aberfan yn ei chynnal gyda chariad. Mae maes chwarae newydd wrth yr ardd goffa, ar gyfer cenhedlaeth ifanc o blant Aberfan. Er i bobl y pentref fyw dan gysgod y drychineb erchyll yma am ddeugain mlynedd, dydy pentref Aberfan ddim wedi marw.
Dywedir nad yw adar yn canu mwyach mewn lleoedd lle bu trasiediau. Nid wy'n cofio os mae hyn yn wir am Aberfan. Ond rwy'n sicr y byddai pob ymwelydd 芒'r pentref yn teimlo'r golled sydd o'u cwmpas.
Gan: Neal Belkin.
|