Pencampwraig lwyddiannus mewn cadair olwyn
Wyddech chi? : Cerys ydy ei henw go iawn hi ond fe adnabyddir hi fel Tanni gan fod ei chwaer hynaf yn mynnu ei galw yn Tiny. Er iddi gael ei geni efo Spina Bifida, mae hi wedi llwyddo i oresgyn hynny a datblygu'n un o athletwyr mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd Cymru.
Yn ifanc, bu'n chwarae pêl fasged ac yn nofio ond ar ôl gweld Marathon Llundain ar y teledu fe'i denwyd at athletau.
Llwyddiant mawr cyntaf Tanni oedd cynrychioli Cymru yn y gêmau cenedlaethol i ieuenctid yn 15 oed pan enillodd y 100m yn annisgwyl.
Ers hynny mae hi wedi mynd o nerth i nerth gan chwalu sawl record byd ac ennill rhes o deitlau gan gynnwys naw medal Olympaidd yn Barcelona, Atlanta a Sydney.
Mae hi hefyd wedi ennill marathon Llundain chwech o weithiau, ac fe ddaeth ei buddugoliaeth yn Ebrill 2002 prin ddeufis ar ôl genedigaeth ei merch Carys.
Mae llwyddiannau Tanni hefyd wedi arwain at yrfa yn y byd cyfryngol gan gynnwys ei gwaith fel cyflwynwraig i raglen 91Èȱ¬ Cymru X-ray.
Mae hi hefyd yn llysgennad dros chwaraeon ac yn gweithio dros Gyngor Chwaraeon Cymru, Sefydliad Chwaraeon y Merched ac Ymddiriedolaeth Chwaraeon yr Ifanc.
Dydy o'n fawr o syndod felly bod Tanni wedi ennill sawl gwobr, gan gynnwys MBE, OBE, Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 91Èȱ¬ Cymru a Chymraes y Flwyddyn.
Roedd Tanni Grey Thompson yn un o'r sêr a aeth i Nant Gwrtheyrn fel rhan o raglenni pry ar y wal S4C, sef Cariad@iaith, i ddysgu Cymraeg. Cafodd ei gwobrwyo am fod y ddysgwraig orau o blith y sêr eraill a ymddangosodd ar y rgalen.
Ei munud fawr: cael ei gwahodd i'r Academi Chwaraeon i gwmni rhai o'r cewri megis Pele, Jack Nicklaus a Michael Jordan.
Yn answyddogol: Roedd hi'n amhosibl iddi hi dderbyn ei thrydydd gwobr am Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwydyn yn 2000 gan na chodwyd ramp i fyny at y llwyfan. Fe gwynodd cannoedd o wylwyr ond doedd o ddim yn poeni gymaint â hynny arni hi.