|
|
Un o feirdd gorau Cymru
"Fy mhrif nod ydy gwneud cerdd. Ei gwneud hi i mi fy hun yn gyntaf ac yna os ydy pobl eraill am ymuno, dyna ni."Mewn gyrfa yn ymestyn dros bum degawd, ysgrifennodd R. S. Thomas dros ugain cyfrol o farddoniaeth, enwebwyd ef am Wobr Nobel ac ymhlith gwobrau lu eraill fe enillodd Fedal y Frenhines am farddoniaeth. Ond roedd o yr un mor frwd fel ymgyrchydd, yn genedlaetholwr pybyr yn huawdl ei farn ar faterion megis tai haf, yr iaith Gymraeg a diarfogi niwcliar. Ganwyd Ronald Stuart Thomas yng Nghaerdydd a graddiodd o Goleg Bangor cyn dechrau ar hyfforddiant diwinyddol yn Llandaf a'i ordeinio'n ddiweddarach yn 1936. Dechreuodd ysgrifennu yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan oedd yn rheithor ym Mhowys ac yn dysgu Cymraeg. Ysgrifennodd y rhan fwya' o'i waith yn Saesneg er iddo gyfansoddi ambell ddarn yn Gymraeg ond roedd yn gefnogol iawn i'r iaith. Yn 1978 symudodd R. S. Thomas i Benrhyn LlÅ·n gan barhau i ysgrifennu a dweud ei ddweud yn groch. Erbyn hyn roedd yn fardd poblogaidd a chyhoeddwyd casgliadau o'i waith. Ar ddiwedd yr 1980au ar 1990au mynegodd ei gefnogaeth i'r ymgyrch losgi tai haf gan honni bod ymfudwyr o Loegr yn lladd yr iaith ac fe gododd nyth cacwn! Bu farw R. S. Thomas yn 2000 ac erbyn hyn sefydlwyd canolfan astudio yn dwyn ei enw ym Mangor.
|
|
|
|
|