Prif Weinidog y Cynulliad
Ydy hwyaden ungoes yn nofio mewn cylchoedd? pan ofynnwyd iddo os oedd o am arwain y Cynulliad.Wyddech chi? : Ysgrifennodd lyfr am ei ddinas enedigol Caerdydd a lysenwodd yn brifddinas hanner a hanner.
Prif weinidog y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn blynyddoedd o wasanaenaeth fel sylwebydd Llafur yn yr Wrthblaid.
Cyn was sifil a addysgwyd yn Rhydychen a Havard, dengys stori'r hwyaden ei awydd i arwain y Cynulliad ac fe wireddwyd ei freuddwyd yn 2000 yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau go anghyffredin.
Er yn ffigwr poblogaidd pan oedd Llafur yn wrthblaid, yn arbennig am ei waith yn croesholi'r Ceidwadwyr ar faterion iechyd, chafodd o ddim swydd yn y Swyddfa Gymreig pan ddaeth Llafur i rym yn dilyn buddugoliaeth 1997. Yn nhŷb llawer, roedd o'n rhy annibynnol ei farn ac yn annhebygol o ddilyn polisïau Llafur Newydd i'r llythyren.
Yn dilyn y bleidlais dros ddatganoli, cynigiodd Morgan hefyd am yr hawl i arwain Llafur yn yr etholiadau a hynny yn erbyn Ron Davies. Ond ail oedd o i un a gydnabyddir yn bensaer datganoli Llafur.
Ond fe ddaeth ei gyfle eto pan orfodwyd Davies i ymddiswyddo yn dilyn ei funud o wallgofrwydd ar Gomin Clapham ond ail agos oedd Rhodri Morgan eto a'r tro hwn i ddewis Tony Blair sef Alun Michael a honnwyd mai pledleisiau bloc yr Undebau a sicrhaodd fuddugoliaeth i Michael ar draul y dewis poblogaidd.
Dan arweiniad Alun Michael, methodd Llafur sicrhau mwyafrif yn etholiadau'r Cynulliad ac roedd y misoedd cyntaf o rym yn eithriadol o anodd iddynt ac ymddiswyddodd Michael. O'r diwedd fe gafodd Rhodri Morgan ei gyfle i arwain ei wlad.
Fe gafodd ei feirniadu'n syth a hynny'n bennaf am greu clymblaid efo'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Ond mae o dal yno ar ôl etholiad arall a'r tro hwn enillodd ddwy sedd yn ychwanegol gan roi hyder iddo greu llywodraeth ar wahân i'r Democratiaid.