91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adloniant
Huw Stephens
Huw Stephens

Ganwyd: Mai 1981.

Magwyd: Caerdydd

Addysg: Ysgol Uwchradd Glantaf


DJ C2 ar 91Èȱ¬ Radio Cymru, Radio 1 a chyflwynydd teledu

Derbyniodd Huw ei addysg yn Ysgol Uwchradd Glantaf a phan yr oedd yn astudio ar gyfer ei lefelau A fe ymgymerodd â phrofiad gwaith yn y 91Èȱ¬.

Mae'n gyflwynydd radio ar 91Èȱ¬ Radio 1 (bob nos Fercher o hanner nos tan 2.00 y bore yn Lloegr), ac ar C2 ar 91Èȱ¬ Radio Cymru ac yn gyflwynydd teledu ar Bandit ar S4C. Yn Ebrill 2005 bu yn y 'New Band Festival' yn Austin, Texas gyda Radio 1.

Beth oedd y gig olaf i chdi fynychu?
Fe welais y delynores Joanna Newsom yn chwarae ym Mryste dydd Gwener diwethaf.

Pwy ydi dy hoff fand ar hyn o bryd?
Fy hoff fand newydd ar hyn o bryd ydi'r Poppies, sef band o Aberystwyth. Fel hen fand, mi ydw i dal yn ffan o'r Boo Radleys.

A pha fand o Gymru wyt ti'n gweld yn llwyddo yn y flwyddyn nesaf (2005 - 2006)?
Poppies. Rwy'n mwynhau stwff nhw ar hyn o bryd a dwi'n gweld nhw'n llwyddo.

Beth ydi dy hoff albwm?
Albwm gan 'Aluminium Babes' neu 'Traffig' gan Gwilym Morus.

Beth oedd yr albwm gyntaf i chdi brynu?
'Crowded House', ond does gen i ddim awydd siarad am hwnnw!

Lle wyliaist ti dîm rygbi Cymru yn ennill y Gamp Lawn?
R'on i mewn bar Gwyddelig pan oeddwn yn Texas. Roedd yn hanner awr wedi naw y bore yno, felly, mewn ffordd, mi welais i ni'n ennill cyn pawb arall!

Mi wyt yn gyflwynydd radio a theledu, ond pa un wyt ti'n ei fwynhau orau?
Y radio, heb os nag oni bai! Mae cyflwyno efo'r ddau arall ar Bandit yn hwyl ond mae'n well gen i'r radio.

Sut brofiad oedd yr ŵyl 'New Bands' yn Texas?
O mi oedd e'n grêt, er r'on i'n sâl pan oeddwn yno. Roedd yna un stryd o venues, tua 60 ohonynt ac roedd yna dros 1,500 o fandiau yn chwarae. Roedd llawer o fandiau o Gymru yno i ddweud y gwir, Goldie Lookin' Chain, Alun Tan Lan a The Martini Henry Rifles.

Wyt ti'n chwarae urhyw offeryn?
Nadw, mi nes i fethu fy arholiad piano gradd 1!

Byw neu farw, pwy fuaset ti'n hoffi ei gyfarfod?
Johnny Cash.

Pwy sydd wedi dylanwadu arnat?
Mi ydw i'n mwynhau llyfrau yr awdur Iian Banks, a hefyd y rapiwr o Gymru - Steffan Cravos.

Pwy fuasai yn dy fand delfrydol?
Brychan o Texas Radio Band ar y bongos, Johnny Cash yn canu, Rich James o'r Gorky's ar y gitâr a Gwenno Saunders ar yr allweddellau.

Cyfweliad gyda thîm y wefan hon yn 2005.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý