91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Adloniant
Charlotte Church yn cyflwyno'r rhaglen 'Have I Got News for You'
Charlotte Church

Ganwyd: 21 Chwefror 1986

Magwyd: Llandaf

Addysg: Ysgol Howell's Llandaf, Caerdydd


Cantores ifanc lwyddiannus

"Pan oeddwn i'n dair a hanner, mi wnes i ganu Ghostbusters efo fy nghyfnither mewn gwersyll glan môr, ar ôl i ni orffen, mi adawodd hi'r llwyfan - roedd rhaid iddyn nhw fy llusgo i oddi yno!"

Wyddech chi? : Gorfu i'r deithwraig Charlotte sefyll ei harholiad TGAU Daearyddiaeth am bedwar o'r gloch y bore yn Llysgenhadaeth Prydain yn Washington DC sef yr un pryd â'i dosbarth adref yng Nghaerdydd. Er hynny, llwyddodd i gael Gradd A.

Y seren o blentyn sydd bellach wedi tyfu fyny ac sy'n awyddus i greu delwedd newydd go wahanol iddi'i hun.

Fe ddaeth cyfle mawr Charlotte yn 1997 ar raglen dalent deledu ac roedd hi yno i gyflwyno'i modryb. Ychydig fariau o Pie Jesu yn ddiweddarach ac roedd y ferch un ar ddeg oed o Gaerdydd yn enw cerddorol.

Hi oedd yr artist ieuengaf erioed i fynd i frig y siart glasurol pan ryddhawyd ei halbwm gyntaf 'Voice of an Angel' yn 1998. Yn fuan iawn, roedd hi'n teithio'r byd ac yn canu i deuluoedd Brenhinol, Arlywyddion a'r Pab.

Ond wrth iddi dyfu'n hÅ·n, soniodd am ei hawydd i newid cyfeiriad ei cherddoriaeth. Er ei bod yn rhyddhau cerddoriaeth glasurol, mae'n ceisio ymestyn ei gorwelion cerddorol.

Recordiodd ddeuawd efo Wyclef Jean ac ymddangos efo Atomic Kitten, Steps ac A1 yn 'Showtime' yn y Stadiwm yng Nghaerdydd.

Fe gafodd hi lwyddiant gyda'r gân ddawns 'The Opera Song' mewn cydweithrediad â Jurgen Vries.

Mae hi wedi ymddangos fel gwestai ac fel cyflwynydd ar y rhaglen Have I got News For You ac wedi gwneud ffilm I'll Be There efo Craig Ferguson.

Dydy tyfu fyny yn wyneb y cyhoedd ddim wedi bod yn hawdd iddi hi gyda'r holl ddiddordeb cyfryngol yn ei bywyd personol a phreifat a llawer o sylw i'r holl ddadleuon teuluol.

Cafodd y problemau yn ei pherthynas â'i chyn-gariad Steven Johnson eu cyhoeddi mewn papurau newydd ar hyd y wlad, ac mae Charlotte Church bellach yn wyneb cyfarwydd mewn chylchgronau adloniant tebyg i Heat.

Mae Charlotte Church yn cael mwy o sylw am ei bywyd personol yn partïo ac yn siopa o amgylch dinas Caerdydd, nag am ei chanu erbyn hyn, ac mae ei wyneb yn ymddangos yn ddyddiol yn y papurau newydd tabloid.

Ym mis Mawrth 2005 fe gyhoeddodd y gantores o Gaerdydd ei bod mewn perthynas â'r chwaraewr rygbi i'r Gweilch Nedd-Tawe a thîm Cymru, Gavin Henson, a oedd yn aelod o'r tîm buddugol a enillodd y Gamp Lawn.

Mae gan Charlotte a Gavin ddau o blant, Ruby a Dexter.

Roedd gan Charlotte Church ei rhaglen sgwrsio ei hun, The Charlotte Church Show ar Channel 4 ble roedd yn sgwrsio ac yn canu gydag enwogion eraill. Ynddangosodd hefyd fel beirniad ar raglen 91Èȱ¬1 Over the Rainbow.

Gwahanodd Charlotte a Gavin yn 2010.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý