Y Gantores Seisnig sy'n cynrychioli s卯n cerddorol Cymru
Wyddech chi?: Mae gan Amy Wadge sgiliau sylfaenol dawnsio Tap a Jazz.Mae Amy Wadge wedi gwneud argraff fawr ar y byd cerddorol ers ei hymddangosiad cyntaf fel aelod o gr诺p merched o'r enw 'Two of a Mind' pan oedd yn 14 oed.
Mae ei cherddoriaeth blues a roc cyfoes wedi cael ymateb gadarnhaol gyda'r Wasg gerddorol. Yn 么l Ouest-France, mae ganddi lais ei chenhedlaeth ac mae hi wedi cael ei chymharu efo enwau mawr fel Joni Mitchell, Emmylou Harris, Janice Joplin, Cerys Matthews a Sheryl Crow.
Yn 16 oed, aeth Amy i berfformio fel cantores ar ei phen ei hun, gan ysgrifennu ei chaneuon ei hun. Aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac ers hynny mae wedi ymsefydlu yng Nghymru.
Er ei bod yn dod o dref Backwell ger Bryste, mae ganddi deimladau cryfion tuag at Gymru.
Lansiwyd ei sengl gyntaf 'Saddest Eyes' yn 2001 ac yn yr un flwyddyn, gofynnwyd iddi hi berfformio ar gyfer 'Radio 2 Live' yng Nghaerdydd. Yr oedd y gig mor llwyddiannus, fe'i darlledwyd yn ei chyfanrwydd ar sioe Janice Long.
Ym mis Mawrth 2002, rhyddhawyd ei halbwm fach 'The Famous Hour' ar label Gymraeg 'FF Vinyl'. Denodd yr albwm ymateb mawr ac arweiniodd at berfformiad byw Amy mewn parti i ddathlu dechrau 91热爆6 Music gyda Lenny Kravitz ac Embrace.
Hefyd yn 2002, perfformiodd Amy Wadge o flaen 30,000 o bobl yn Ng诺yl y Werin, yng Nghaer-grawnt a'r Mardi Gras yng Nghaerdydd.
Ym mis Ebrill 2003, derbyniodd Amy Wadge adolygiadau gwych ar 么l ei thaith gyntaf o wledydd Prydain gyda'i band ac ym mis Mehefin yr oeddynt yn perfformio yng Ng诺yl Glastonbury. Dim ond mis wedyn, yr oedd yn cefnogi s锚r mawr megis Van Morrison a Bob Geldof ac Amy oedd y brif act yng Ng诺yl Castell Caerffili.
Daeth y sengl 'Just in Time' ym mis Hydref a chafodd y gantores wahoddiad gan y Cynulliad i berfformio ar gyfer digwyddiad 'Wales Rocks Sydney' i gyd-fynd 芒 phencampwriaeth Rygbi, Cwpan y Byd.
Ar 么l iddi ddod yn 么l o Sydney, aeth ar daith arall o gwmpas Prydain a orffenodd gyda gwahoddiad iddi berfformio ar ddechrau gig Jeff Beck ar gyfer ei daith gyntaf ef ar 么l 14 o flynyddoedd. Ar y daith honno, perfformiodd ddwywaith yn Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain.
Perfformiodd hefyd yn y Llysgenhadaeth Brydeinig ym Moscow ar gyfer digwyddiad SWS (Social, Welsh and Sexy) a oedd yn ddathliad Dydd G诺yl Dewi ar gyfer alltudwyr Cymraeg.
Y mae Amy wedi gwneud nifer o ymddangosiadau teledu, gan gynnwys perfformio ar 'Sesiwn Hwyr', 'Working Lunch' a sioe newydd Stuart Cable.
Ymddangosodd Amy Wadge yn y gyfres deledu Cariad@Iaith ar S4C ym mis Mawrth 2004, lle ymgeisiodd i ddysgu Cymraeg gyda'r tiwtor Nia Parry, ac enwogion eraill oedd yn hannu o Gymru, gan gynnwys Janet Street Porter, Ruth Maddock, a'r athletwraig Tanni Grey-Thompson.
Yn 2004, lansiwyd ei halbwm llawn cyntaf, 'WOJ'. Mae fel dyddiadur i Amy, gyda tair ar ddeg o ganeuon a ysgrifennwyd ganddi am ei theimladau a'i phrofiadau. O ganlyniad i lwyddiant yr albwm hwn, cynyddwyd y diddordeb i'r seren hon yn y byd cerddorol.
Mae hi wedi ennill y wobr am 'Best Female Solo Artist' mewn Gwobrau Cerddoriaeth Cymru yn 2002 a 2003 ac roedd hi'n un o'r bobl a ddewiswyd ar gyfer y wobr 'Best Newcomer' yn Ngwobrau Pop Factory.
Yn 2005 bu'n gweithio gyda brawd Nicky Wire, Patrick Jones, ac yn gweithio ar ei hail albwm sydd ym cael ei recordio yng Ngogledd Cymru.
Ar Ionawr 29, 2008 ganwyd merch iddi hi a'i g诺r Alun ap Brinley, sef Mali Jennifer Jenkins.
Bydd Amy Wadge yn 么l ar daith o fis Ebrill 2008 ymlaen.