Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru yn gosod ei stondin
07 Mawrth 2011
Mae Cyfarwyddwr Artistig newydd Theatr Genedlaethol Cymru wedi y bydd yn cydweithio 芒 chwmn茂au drama eraill er mwyn cael y rhaglen orau o ddrama i gynulleidfoedd.
Wrth gael ei holi gan Kate Crockett ar Stiwdio, 91热爆 Radio Cymru, Mawrth 3 2011, enwodd Arwel Gruffydd gwmni Sherman Cymru yn benodol lle mae'n gweithio ar hyn o bryd.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Bydd hefyd yn "archwilio partneriaeth" gyda National Theatr Wales sydd wedi croesawu ei benodiad.
Ond ychwanegodd y bydd yn trafod hefyd gyda "chwmn茂au theatr eraill a sefydliadau creadigol eraill ac unigolion ac artistiaid o bob math".
Nid t诺r ifori
Pwysleisiodd Arwel Gruffydd, sydd yn dilyn Cefin Roberts fel cyfarwyddwr creadigol Theatr Genedlaethol Cymru, nad swydd "t诺r ifori" fydd hon iddo.
"Dwi'n awyddus iawn i dderbyn syniadau. Peidiwch 芒 disgwyl i mi eistedd mewn t诺r ifori yn gwarchod fy hunan a thaflu briwsion neu ddarnau o gig i lawr i'r werin datws," meddai.
"Er mor ddiddorol ydi'r ddelwedd honno nid person fel yna ydw i ac rydw i yn awyddus iawn os oes gan unrhyw un syniad ardderchog boed hwnnw neu honno yn artist cydnabyddedig neu fel arall fe fuaswn i wrth y modd clywed [oddi wrthynt]," ychwanegodd.
Ar gychwyn ei sgwrs gyda Kate Crockett dywedodd mai'r hyn sy'n bwysig gyda Theatr genedlaethol Cymru yn awr yw, "edrych i'r dyfodol gyda hyder, bod yn ddyfeisgar yn y ffordd y byddwn ni'n cyflwyno theatr a'r ffordd yr ydym yn ymwneud 芒 Chymru a'i gwahanol gymunedau".
Meddai: "Mae'r Theatr Genedlaethol yn amlwg yn sefydliad cenedlaethol sydd yn agos at galon pobl. Mae disgwyliadau pobl yn uchel," meddai.
Dywedodd y byddai'n cychwyn gyda "tudalen l芒n" gan edrych tua'r dyfodol yn "frwdfrydig" gyda gweithiau clasurol ac "yn bwysicach na hynny" gweithiau newydd.
"A hefyd yn archwilio ffyrdd newydd o gyflwyno theatr," meddai gan egluro mai'r hyn sydd yn arbennig am theatr yw ei bod yn bosib iddi fod yn gymaint o bethau i wahanol bobl.
"Mae'n bwysig nad ydi pethau yn aros yn llonydd .Mae cymdeithas yn newid, diwylliant [yn newid] [ac] mae technoleg yn newid," meddai.
"Ffurf ar gyfathrebu ydi theatr . . . a ffyrdd o rannu profiad mewn modd greadigol ac os ydi'r dechnoleg gyfathrebu yn newid . . . mae'n bwysig bod cwmni theatr - ac yn sicr sefydliad theatr neu sefydliad celfyddydol cenedlaethol - yn ymateb i'r chwyldro hwnnw.
"Oes, mae lle i'r traddodiadol ond mae yna le hefyd i arbrofi. i archwilio ffurf theatr ac i fod yn ddewr ac yn fentrus ac yn ddychmygus efo fo," meddai.
Cyfaddefodd y bydd yn amhosib plesio pawb bob tro gyda phob cynhyrchiad.
Tu hwnt i'r gair
Dywedodd y bydd sgwennu newydd yn rhan bwysig iawn, iawn, o'r arlwy.
"Ond, wrth gwrs, nid y gair ydi'r cyfan o'r profiad theatraidd ac mae archwilio ffyrdd o gyfathrebu mewn modd creadigol ar lwyfan neu blatfform theatraidd mewn ffyrdd eraill tu hwnt i'r gair yr un mor bwysig," meddai.
Dywedodd na fydd yna anwybyddu enwau mawr sydd wedi cyrraedd y brig a c ennill clod rhyngwladol.
Ei waith cyntaf fydd llunio rhaglen artistig ar gyfer 2012 a chwblhau prosiectau sydd eisoes ar y gweill.
Bu'n s么n hefyd am y dylanwadau arno.