Rhai pethau a ddywedwyd am Y T诺r gan William Jones wrth drafod ei addasiad ohoni ar gyfer y teledu adeg denglwyddiant marw Gwenlyn Parry:
- Does 'na ddim amheuaeth bod y ddrama lwyfan yma o'r 70au yn glasur. Mae'r rhan fwyaf o'r farn mai dyma ddrama orau Gwenlyn.
- Mae'n ddrama wych, sy'n procio'r meddwl. Mae'n delio gyda phynciau mawrion ond mae'n ddrama ddifyr, mae 'na rannau doniol ynddi hi a tydi hi fyth yn rhoi pregeth. Dwi'n credu ei bod hi'n theatr ragorol.
- Yn sylfaenol, yr hyn sydd gennym ni yma yw clasur. Mae her a grym y ddrama ei hun yn anhygoel.
- Mae wedi cael ei hysgrifennu mor gelfydd, ac wedi ei chreu mor dynn. Tynnwch chi un fricsen o Act Un ac mi wnaiff Act Tri chwalu'n llwyr...
- Mae'r ddau gymeriad wedi eu cau i mewn trwy gydol y ddrama ac allwch chi ddim mynd 芒 nhw allan o Y T诺r. Mae'r syniad yma o glawstroffobia yn ganolog i'r ddrama. . . Mae angen cyfarwyddo celfydd ar y ddrama gan fod popeth yn digwydd o fewn y t诺r.
- Roedd Gwenlyn Parry yn arbrofol yn ei ddydd, ac yn defnyddio technegau cynhyrchu newydd o fewn y theatr. Yn sicr, fe wnaeth wthio ffiniau cynhyrchu o fewn cyfrwng y ffilm a'r llwyfan.
- . . . un o ddram芒u pwysicaf yr iaith.