91热爆

Gwenlyn Parry - atgofion Maureen Rhys

Maureen Rhys a Gwenlyn Parry

Cofio man cychwyn 'Y T诺r' a'r perfformiad cyntaf un

'Un arall o ddram芒u od Gwenlyn Parry!'

Roeddwn i'n llafnas ifanc yng nghanol cwmni dethol yn gwrando ar y dyn penddu yma yn dweud straeon a dyma Elfyn Thomas yn troi ata i a deud, "Ti'n gwbod pwy di'r dyn yma, twyt? Brawd Margaret Parry oedd yn Form Six pan oeddat ti yn Form One."

Do, fe aeth Margaret, Gwenlyn a minnau i'r un ysgol - dim ond fod Gwenlyn un mlynedd ar ddeg yn hynach na mi.

Yr hyn a'm trawodd i amdano y noson honno oedd y carisma - nid yn gonfensiynol olygus ond rhywbeth llawer mwy gwerthfawr. Dyn yn hawlio sylw, yn medru dweud ei ddweud mor ddifyr.

Cynnig 'Y T诺r' dros swpar

Fe fu i'n llwybrau groesi ambell i waith yn ystod y pymtheng mlynedd oedd i ddilyn. Eisteddfod Wrecsam oedd hi, ar ganol sgwrs, dyma Gwenlyn yn gofyn yn reit ddidaro, "Dowch am swpar efo fi."

Felly y bu. John a minnau yn swpera efo Gwenlyn, a finnau am unwaith yn gwrando yn lle siarad!

Yn sydyn dyma fo'n troi ata i a gofyn, "Sut fasa ti'n licio bod yn ifanc, canol oed a hen?"
Doeddwn i ar y pryd naill ai'n ifanc, yn ganol oed nac yn hen.
"Be? Go iawn ti'n feddwl?" medda fi.
"Naci si诺r, mewn drama, hogan."
"Wrth fy modd," medda fi. "Dyna be fydda sialens."
"Iawn ta," medda Gwenlyn. "Steddfod Caerdydd flwyddyn nesa amdani."
Hynny ydi, 1978.

Be fedrwn i neud wedyn ond codi o'm sedd a rhoi clamp o sws ar i foch o!

Yr anrheg yn cyrraedd

Ymhen rhyw ddeng mis mi ddaeth yr anrheg - a dyna beth oedd Y T诺r.

Teitl da, fel pob un o deitlau dram芒u Gwenlyn.

Yn 么l ei gyfaddefiad ei hun yr oedd yn cymryd bron i flwyddyn i sgrifennu drama.

Drama sy'n gerdd

Oherwydd fy mod i yng Nghaerdydd ar y pryd a John ym Mangor yr oeddem ni wedi darllen y ddrama ar wah芒n ond yn unfryd unfarn fod hon yn mynd i fod yn sialens ac yn bleser.

Cerdd ydi hi a rhythmau pendant i'r dweud - yn cynnwys y rhegfeydd! Ac mae rhywun mwy cymwys na mi wedi dweud hynny mewn print, yn Rhagair Saunders Lewis i'r ddrama.

Noson gyntaf 'Y T诺r

'

Anghofia i byth y noson gyntaf yn Theatr Newydd Caerdydd. Y lle'n orlawn. Dros fil o bobol yn disgwyl am ddrama newydd gan brif ddramodydd.

Bu'r mis o ymarfer dan law gadarn y cyfarwyddwr, David Lyn, yn bleser pur a dyma ni r诺an yn barod i droedio'r llwyfan.

Yn yr ystafell wisgo yr oeddwn i'n crynu fel deilan a nannedd i'n clecian!
Ofn anghofio.
Ofn i bobol gerddad allan.
Ofn diflasu'r gynulleidfa.
Dim ond dau actor yn siarad. A dyma fi'n dewis un o'r ofnau i ddweud wrth Gwenlyn amdano, ofn anghofio.

"Paid 芒 phoeni," medda fo. "Mi fyddai yn y gynulleidfa a mi godai ar fy nhraed a gweiddi'r llinall ac mi fydd pawb yn meddwl mai un o ddram芒u od Gwenlyn Parry ydi hon eto!"

Dyma fo'n agor ei freichiau a'u cau amdanai a finna'n chwerthin.

Gw锚n a dagrau mewn brawddeg

Anghofiai byth, byth, y noson honno.
Y distawrwydd llethol, y chwerthin a'r crio.
Y cwbwl i gyd mewn ychydig dros ddwyawr. Y teimlad o b诺er, dim llai. O allu gwneud i bobl chwerthin a chrio o fewn yr un frawddeg bron. Dyma i mi un o ragoriaethau Gwenlyn.

A defnyddio dywediad o'n hardal ni, "gwybod faint i stretsio'r lastig".

Dim ond ar lwyfan y gall rhywun gael profiad fel'na.

Dros fil o bobol, fel un pryfyn ar wal, yn sbecian ar fywyd preifat dau berson. Y cicio, y brathu, y crio a'r caru.

Deunaw mlynedd yn ddiweddarach perfformio'r un ddrama eto, dan law Graham Laker. Y tro yma heb egwyl na cholur.

Am brofiad! Am ddrama! Diolch fyth i Gwenlyn.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.