Gwenlyn Parry - bywgraffiad
- Ganwyd yn 1932 yn Neiniolen, neu Llanbabs fel yr oedd ef a thrigolion yr ardal yn galw'r pentref.
Chwarelwr yn chwarel Dinorwig oedd ei dad gyda bywyd yn galed i deulu a oedd yn brwydro'n barhaus yn erbyn tlodi.
Mae nifer o feirniaid llenyddol yn gweld olion yr ofn hwnnw, a oedd yn fygythiad parhaol, yn ei ddram芒u.
-
Yn 1939 aeth ei dad i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd a dechreuodd ei fam weithio mewn ffatri yn Llanberis. Hi oedd yn gwisgo'r trowsus yn y cartref felly, ac mae merched dram芒u Gwenlyn yn rhai cryfion.
-
Cafodd ei addysg yn Ysgol Gwaun Gynfi lle pasiodd y sgolarship i Ysgol Ramadeg Brynrefail. Yn yr ysgol roedd yn mwynhau gwyddoniaeth.
-
Yr oedd yn 13 pan ddaeth ei dad adref o'r rhyfel.
-
Yn ddiweddarach ymunodd Gwenlyn 芒'r RAF i gyflawni ei wasanaeth milwrol gorfodol. Yn anghytuno 芒 rhyfel yn dilyn holl hanesion erchyll ei dad treuliodd ddwy flynedd yn nyrs yn adran feddygol yr RAF. Dywedodd i'r cyfnod hwn yn nyrs fod o help iddo ysgrifennu Poen yn y Bol, Y T诺r a Sal gan iddo weld sut yr oedd pobl yn teimlo pan oedden nhw mewn poen. Hefyd cafodd yr wybodaeth feddygol angenrheidiol.
- Wedi iddo ddychwelyd adref o'r RAF aeth i'r Coleg Normal ym Mangor i'w hyfforddi'n athro. Yno ymddiddorodd yn y ddrama, nid fel sgwennwr ond fel actor a chynhyrchydd.
-
Tra'r oedd yn y coleg hefyd y dechreuodd Richard Jones, ei gyn brifathro yn Ysgol Gwaun Gynfi, ei hyfforddi i fod yn bregethwr cynorthwyol. Efallai mai dyma eginfa y gwersi moesol yn ei ddram芒u sy'n peri i feirniaid weld ystyr grefyddol iddyn nhw.
-
Yn athro Mathemateg yn Llundain daeth yn fwy cyfarwydd 芒 byd y theatr a threuliodd lawer o'i amser hamdden yn y West End. Dechreuodd hefyd ymh茅l 芒 Chwmni Drama'r Gymdeithas Gymreig yn Llundain lle daeth i gysylltiad 芒 rhai fel Ryan Davies a Rhydderch Jones. Hefyd, bu'n arwain nifer o nosweithiau llawen yma.
-
Wedi pedair blynedd, gadawodd Lundain i ddysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, lle bu'n dysgu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Tra'n byw yng Nghaernarfon daeth i adnabod Huw Lloyd Edwards a fu'n ysbrydoliaeth fawr iddo. Ef a'i perswadiodd i anfon ei ddrama gyntaf, Y Ddraenen Fach, i gystadleuaeth drama fer Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Maelor yn 1961 lle daeth yn gydradd gyntaf.
- Yn ddiweddarach perswadiodd Huw Lloyd Edwards ef i ysgrifennu drama hir. Comisiwn gan Elis Gwyn a Wil Sam o Theatr y Gegin, Cricieth, a barodd iddo fynd ati i ysgrifennu Saer Doliau.
-
Yn y cyfamser bu'n actio a chynhyrchu yn Theatr Fach Eryri lle daeth dan ddylanwad John Gwilym Jones.
-
Hefyd roedd yn cynhyrchu drama flynyddol yn ysgol Dyffryn Ogwen lle'r oedd erbyn hyn yn athro.
-
Yn 1966 ymunodd 芒'r 91热爆 yng Nghaerdydd i sefydlu adran sgriptiau. Dyma gyfnod cyfresi fel Fo a Fe a chychwyn Pobol y Cwm a'r ffilm Saesneg, Grand Slam.
-
Enillodd lawer o wobrau gan gynnwys pedair gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr Cyngor y Celfyddydau yn 1967 a gwobr yng Ng诺yl Ddrama Ryngwladol Dundalk yn Iwerddon yn 1977.
-
Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf 芒 Joy o Bontyberem ac wedyn ag Ann Beynon. Yr oedd dau blentyn yn y ddwy briodas.
-
Bu farw ar Dachwedd 5 1991 ac fe'i claddwyd ym mynwent Macpela, Pen-y-groes, Dyffryn Nantlle.
A - Z theatr
Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru