Mawr fu'r cynnwrf pan ddarganfuwyd copi o'r ddrama The Devil Inside Him gan John Osborne yn swyddfa'r Lord Chamberlain, y sensor dram芒u 'slawer dydd.
Drama wedi ei lleoli yng Nghymru - rhywle yng nghyffiniau Abertawe, fe ddwedir, a heb erioed ei llwyfannu o'r blaen.
Os oedd National Theatr Wales am greu cynnwrf a diddordeb gyda'r ail gynhyrchiad yn ei hanes prin y gellid bod wedi cael gwell.
Roedd y Theatr Newydd yng Nghaerdydd yn llawn bob nos. Yn llawn o bobl ifanc, hefyd, oedd yn galondid mawr.
O ran ffurf mae'n ddrama gonfensiynol a'r llwyfan wedi ei osod yn hen ffasiwn. Gallasai fod yn ddrama mewn neuadd bentref yng Nghymru'r Pumdegau.
Mae'r stori hefyd yn eithaf hen ffasiwn a'r thema'n perthyn i ryw oes a fu - eto'n berthnasol i heddiw.
Mae'n cychwyn gyda golygfa mewn stafell fyw, lolfa i'n hoes ni, parlwr yng nghyfnod y ddrama yng nghartref teulu Prosser. Cegin a dweud y gwir, ond bod anghenion y ddrama yn gofyn am gegin oddi ar y llwyfan i'r cymeriadau neilltuo.
Cymdeithas gyfyng
Teulu parchus yn byw mewn cymdeithas gyfyng, bentrefol neu dre fechan yw'r Prosseriaid - rhywle'n agos i Abertawe yn 么l y rhaglen - tua 1948. Ac yn cadw lojyrs.
Mae'r ddrama'n agor gyda sgwrs rhwng Mrs Evans (Rachel Lumberg), y ddynes lanhau a gwneud tipyn o bopeth, a'r trafeilwr, Mr Stevens (Steven Elliott), sydd ar dipyn o frys i adel. Sgwrs unochrog, oherwydd mae Mrs Evans yn siaradus a weithiau'n ffraeth a doniol.
Hi yw'r cymeriad sy'n dod ag ysgafnder i'r ddrama a chynnig ochor arall i'r gymdeithas gul yma, yr awgrym bod yna ddiwylliant tu allan i'r culni crefyddol o fewn y teulu. Mae yna 诺yl gorawl ac mae hi yn y c么r.
Ystrydebol Gymreig falle ond ganddi hi mae'r llinellau da.
Mae Mrs Prosser (Helen Griffin) yn ddynes digon dymunol ond dan fawd ei g诺r, creadur annifyr gor dduwiol. Eto dyw e ddim cymaint o deyrn a hynny gan ei fod e'n cymryd tipyn o haerllugrwydd wrth Dilys (Catrin Stewart), Y Forwyn gydag attitude, ac oddi wrth Mrs Evans. Dyw Mrs Prosser ddim yn llwyr argyhoeddi, greda i.
Sgrifennu barddoniaeth
Wedyn dyna brif gymeriad y ddrama, Huw Prosser (Iwan Rheon) y mab, sy'n gweithio mewn siop gigydd, bachgen ifanc sy'n ffeindio duwioldeb a surni ei dad yn dreth.
Mae'n trio sgrifennu barddoniaeth ond mae dirmyg y teulu a'r gymdeithas yn ei lethu. Eto mae e'n gymeriad eitha cyfoes. Heddiw, yn lle encilio i sgrifennu tebyg y byddai'n encilio at ei gyfrifiadur yn y llofft a'r chatroom.
Yn y cyfamser mae Mr Gruffydd (John Cording) y gweinidog yn cael ei alw i ymweld 芒 Huw ar 么l i Mr Prosser (Derek Hutchinson) y tad ddod o hyd i'r llyfr lle mae Huw yn sgrifennu ei farddoniaeth. Mae geiriau fel "bwrw allan gythreulied" yn dod i'r meddwl a llawer o d芒n a brwmstan yn ngeiriau Mr Gruffydd.
Ond mae'r lojyr arall, Burn (Jamie Ballard), myfyriwr meddygol sy'n ymddiddori mewn seicoleg yn canmol ymdrechion Huw a'i annog i anwybyddu'r crefyddwyr ac i ddal ati gan ddadlau'n ffyrnig gyda'r gweinidog nad yw drwg yn bod - "y'ch creadigaeth chi yw e". Dweud mawr yng Nghymru'r cyfnod, falle. Ef sy'n rhoi mewn geiriau yr hyn na all Huw ei fynegi.
Sleifio oddi yno
Trwy Burn y deuwn i ddeall pam fod y lojyr arall wedi sleifio oddi yno mor sydyn - mae e wedi gadel Dilys y Forwyn yn feichiog a hithau'n ceisio perswadio Burn i roi erthyliad iddi ond mae'n gwrthod.
Mae hi'n trio mynd i'r afel 芒 Huw, wedyn, a'i hudo ef - i roi'r bai arno fe am y babi. Ond does dim tycio, felly mae hi'n ymosod arno a rhwygo'i dillad i roi'r argraff iddo ei threisio hi.
Yn y sgarmes mae e'n ei thrywanu hi ond o ble daeth y gyllell yna mor sydyn? Rwy'n gwybod mai prentis bwtsier yw e. Rodd yna ambell i beth felna oedd ddim yn ffitio yn y ddrama a doedd cymeriad Dilys ddim yn argyhoeddi rywsut - er y dylwn fod 芒 chydymdeimlad 芒 hi wedi ei thwyllo gan Mr Stevens y trafeiliwr.
Ond mae hi'n rhy galed, yn rhy ystrywgar a heb fod yn ddigon secsi.
Mae Burn yn darganfod be sy wedi digwydd a cheisio helpu Huw ond gwell peidio 芒 dweud rhagor rhag ofn bod darllenwyr sy'n dal heb weld y ddrama ... ond mae'r diweddglo symbolaidd yn od ac yn anghydnaws 芒'r kitchen sink.
A dyna'r awgrym o sut y ceisiodd Huw gael gwared 芒'r corff ... O diar ...
Meddwl am Caradog Evans
Yn y cyd-destun Cymreig mae rhywun yn meddwl am Caradog Evans oedd yn sgrifennu'r math yma o bethau gwrth ymneilltuol ddeng mlynedd ar hugain ynghynt.
Mae'n ddarlun o gyfnod, o gymdeithas gul allanol barchus mewn tre fach ac er, yn ddiau, bod y fath beth yn bod dyw e ddim yn ddarlun rwyf i'n ei adnabod - ond crwt o'r wlad ydw i nid o'r dre - er efallai mod i'n nes at gyfnod Osborne na'r rhan fwyaf oedd yn y gynulleidfa.
Mae yna neges gyfoes iddi. Mae yna gymdeithasau o hyd - hyd yn oed yng Nghymru, synnwn i ddim - lle mae dynion a chrefyddau sy'n gormesu merched a gormesu dynion hefyd sy heb fod yn perthyn i'r patrwm.
Er bod y gynulleidfa ifanc yn werthfawrogol iawn ei gweld hi'n rhywbeth oedd yn perthyn i oes sydd wedi hen fynd heibio oeddwn i ac o ddiddordeb i'r ysgolhaig chwilfrydig. Drama wedi ei sgrifennu gan John Osborne pan oedd tua deunaw oed.
Mae'r dicter yn fwy, na dicter Look Back in Anger a'r ddrama'n ddu a'r tu hwnt o besimistaidd.
Petaech chi neu fi wedi sgrifennu hon rwy'n amau a fuasai neb am ei llwyfannu hi ond gydag enw John Osborne, a siglodd seiliau'r ddrama Saesneg, wrthi mae hi o ddiddordeb mawr.
Mae hi'n gadarn yn nhraddodiad y cwmni rep teithiol lle dysgodd Osborne ei grefft theatrig. Mae hyd yn oed y t欧 gyda'i lojyrs yn rhywbeth oedd yn rhan o brofiad, o fywyd, yr actorion hynny.
Ond i mi roedd hi'n ormod o felodrama ac er i Elen Bowman, y gyfarwyddwraig wneud gwaith arbennig yn datblygu'r cymeriadau, fedra i ddim dweud bod yr un ohonyn nhw'n ennyn fy nghydymdeimlad i.
Hapus gyda'r perfformiad
Roeddwn i'n teimlo'n hapus iawn gyda pherfformiadau'r actorion, ond rwy'n leico cael y teimlad mod i'n cydymdeimlo gyda'r cymeriadau. Ddim y tro hwn.
Ond fel darn o ddogfen gymdeithasol - darlun o gyfnod - ac o effaith gorthrwm crefyddol ar un nad yw am fod yn rhan o'r fath gymdeithas, mae'n ddiddorol er mai gwaith prentis addawol yw hi.
Wyddwn i ddim bod tad John Osborne yn Gymro. Dyn annwyl iawn mae'n debyg ac yr oedd yn llawer caredicach yn ei atgofion teuluol tuag at ei dad nag ochr Lundeinig ei fam. Cafodd hefyd brifathro ysgol oedd yn Gymro a 'doedd hwnnw ddim yn agos mor ddymunol.
Efallai i hynny effeithio arno ond fyddwn i ddim yn dal dig am hynny er na chefais i lawer o fwynhad gyda'r Devil Inside Him.