Drama'n siomi mewn cynhyrchiad sy'n plesio
Cynhyrchiad da ond drama siomedig ac ystrydebol - dyna farn yr adolygydd Sioned Williams am Tyner yw'r Lleuad Heno sydd newydd gychwyn ar daith o amgylch Cymru.
Yn pwyso a mesur cynhyrchiad hydref 2009 Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru ar Raglen Dewi Llwyd fore Sul Hydref 11 2009 canmolodd Sioned Williams safon "uchel iawn" yr actio a'r set gain.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
"Ond yn anffodus chefais i ddim fy ngwefreiddio gan Tyner yw'r Lleuad Heno ac yn wir fe ddes i o'r theatr yn teimlo braidd yn siomedig ac mae'n gas gen i ddweud hynny." meddai.
"Dwi'n meddwl i'r gynulleidfa, ar y cyfan, fwynhau y ddrama ac mi wnes i fwynhau ond wnes i ddim cael fy ngwefreiddio," ychwanegodd.
Dywedodd bod tipyn o ymateb i'r hiwmor du, bachog, yn y sgript.
"Ond, doedd y gymeradwyaeth ar ddiwedd y ddrama ddim yn agos at y fath o gymeradwyaeth sydd wedi bod i'r cynyrchiadau blaenorol. Doedd dim un alwad yn 么l i'r llen."
Rhoddodd y bai ar "y ddrama mae gen i ofn" gan fod nifer o bethau eraill yngl欧n a'r cynhyrchiad yn ddigon "clodwiw".
"A dwi'n dweud 'Mae gen i ofn' achos rwy'n edmygu gwaith Meic Povey yn fawr ac roeddwn i'n falch o weld gwaith newydd yn cael ei berfformio gan y Theatr Genedlaethol yn hytrach na chyfieithiad ac yn y blaen ond roeddwn i'n teimlo bod y ddrama hon yn hen ffasiwn ei them芒u a'i harddull. Roedd hi'n dreuliedig .
"Mae ei thema, wrth gwrs, yn oesol, ond mae angen i awduron eu cyflwyno a'u dadansoddi o'r newydd a [doeddwn i ddim yn teimlo] bod hynny wedi digwydd. Roedd y stori yn ystrydebol, roedd y dyfeisiau dramatig yn ystrydebol ac roeddwn i'n teimlo bod y cymeriadau yn ystrydebol ," meddai.
Ac yngl欧n 芒 chyfrinachau duon a ddadlennir yn y ddram dywedodd bod y gynulleidfa yn eu "gweld o bell" yn dod.
"Ond . . . roeddwn i'n teimlo bod y them芒u yma yn hen-ffasiwn . . . roeddech chi'n teimlo 'Oh; roedd e jyst mor amlwg'," meddai gydag un o'r cymeriadau, Dafydd, y disgwyliai iddo fod yn fwyaf diddorol yn troi allan yr un lleiaf lliwgar a heb fod yn gydnaws a'r disgrifiad ohono yn rhaglen y ddrama.
Ar yr ochr arall, canmolodd yr hiwmor du yn y sgript a'r ddeialog fyw.
"A'r iaith yn hoenus iawn [ac] mae rhyw fath o gymysgedd o Saesneg a Chymraeg yn digwydd sy'n real iawn ac yn ffraeth iawn achos rydym yn gwybod bod gan Meic Povey glust arbennig am iaith a sgwrs ac mae'r ddeialog yn un o gryfderau'r ddrama," meddai.
"A'r cast hefyd yn arbennig; achos dyma actorion gorau ein cenedl ni falle [ac] maen nhw yn perfformio'n arbennig.
"Yn arbennig Ffion Dafis fel hen ferch rwystredig - mae hi yn argyhoeddi a'i pherfformiad yn rymus ac wedyn Merfyn Pierce Jones yn cyfleu cyfyng gyngor a'r sefyllfa ffiaidd y mae ynddi.
Canmolodd hefyd y miwsig gwerinol a'i oslef braidd yn sinistr a ychwanegai at naws a thyndra'r ddrama.
Yn wir, dywedodd bod "ambell gip" o botensial mawr i'r ddrama.
Cynhyrchiad safonol felly ond "braidd yn gyffredin" meddai.
"Yr oedd angen gwneud rhywbeth yn wahanol."