B没m er fy ugeiniau cynnar yn edmygwr mawr o Fro'r Preseli, ardaloedd Crymych, Crosswell, Efailwen, Mynachlog-ddu, Maenclochog. Ardaloedd Cymreig a diwylliedig lle rhoddir bri ar g芒n a cherdd.
Cododd fy edmygedd o'r fro yn uwch fyth gyda'r darlun cyfoethog o fywyd Niclas y Glais, T. E. Nicholas (1879-1971), yng Nghanolfan Ddysgu Gydol Oes Gartholwg, Pentre'r Eglwys, nos Sadwrn, Ionawr 22 2010.
Emosiynol a hwyliog
Yr oedd yn noson emosiynol, gynnes, hwyliog a gwleidyddol.
Profiad iasol oedd gweld cast o gant, pobl o bob oed o fro enedigol Niclas, yn talu'r wrogaeth hon iddo.
Er mai fel "Niclas y Glais" yr oedd pobl yn ei adnabod, ym Mhentregalar, ger Crymych y'i ganwyd a'i fagu.
Ardal iawn i fagu gwrthryfelwr. Ym 1838, ddeugain mlynedd cyn geni Niclas yr oedd Merched Beca yn torri iet Efailwen, eu iet gyntaf, ychydig filltiroedd i ffwrdd.
Cymuned yn cydweithio a welsom yn y golygfeydd cynhaeaf gwair, man da i gychwyn Sosialydd.
Yr oedd, felly, yn addas fod hwn yn gyflwyniad wedi ei lunio gan y gymuned, o sgript Gareth Ioan i'r perfformwyr, oherwydd bardd cymdeithas oedd T E Nicholas. Pwysleisiai werth y gymdeithas uwchlaw gwerth y person unigol.
Yng ngharchar
Ei gyfnod yng ngharchar Abertawe yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y llinyn a ddaliai'r perfformiad. Yno, yn ei gell bum llath wrth dair, y mae'n dwyn i gof ddigwyddiadau ei fywyd.
Cofio'i blentyndod ym mro'r Preseli ac Academi'r Gwynfryn, Rhydaman, yr ysgol a gedwid gan Watcyn Wyn a thrafod Marcsiaeth a Christnogaeth yn y dosbarth - gwahanol iawn i'r addysg Seisnig yn Ysgol Gynradd Hermon.
Oddi yno i'r weinidogaeth, at yr Annibynwyr, y mwyaf radical o'r prif enwadau ymneilltuol.
Cafwyd hanes ei gyfeillgarwch gyda Keir Hardie y bu'n asiant etholiadol iddo a thraddodi'r bregeth yn ei angladd ym 1915 gan godi ei destun allan o Luc, "Mi a ddeuthum i fwrw t芒n ar y ddaear".
Safodd fel Ymgeisydd Llafur a Heddychwr yn Aberd芒r, rhan o hen sedd Hardie, yn etholiad 1918 gan golli i ymgeisydd y Blaid Lafur Annibynnol a drodd i fod yn un o'r mwyaf jingoistaidd o blaid y rhyfel.
Gyda'r Chwyldro yn Rwsia a diffrwythdra Llafur yn ystod y rhyfel ymunodd 芒'r Blaid Gomiwnyddol, a dyna fu weddill oes.
Mesur hwylus!
Honnir iddo droi at y soned fel ei gyfrwng barddol tra'n y carchar, am fod soned yn ffitio'n daclus ar un darn o bapur t欧 bach ond yr oedd symlrwydd urddasol y mesur yn gweddu'n iawn hefyd i gyflwyno'i neges uniongyrchol.
Gwnaeth Gareth Ioan ddefnydd ardderchog o gerddi Nicholas gan adael iddo siarad 芒 ni trwyddynt a chawsom aml fflach oedd yn cyfeirio'n meddyliau at heddiw - s么n am fonws y meistri glo pan oedd y gweithwyr yn wynebu toriadau cyflog.
Roedd yma lawer o hiwmor, hefyd, fel y cyfeiriad at Niclas yn arall gyfeirio a bod "dant" arall ganddo i'w grwth - mynd yn ddeintydd!
Cafwyd gem o sefyllfa yn ei ddeintyddfa - Niclas wrthi'n paratoi i dynnu dant, trafod Rhyfel Sbaen a cheisio gwerthu'i gyfrol ddiweddara o gerddi, y cyfan fwy neu lai yr un pryd. Sefyllfa ddychmygol? Nid yn 么l a glywais i.
Noson i'w thrysori
Defnyddiwyd amryw gyfryngau - dawns a ch芒n, yr hen emynau a'r Faner Goch, Cerdd Dant, adrodd a lluniau archif ar y gefnlen.
Cawsom berfformiadau arbennig gan Eifion Daniels a Geraint Harries fel Niclas a Geraint Jones fel y ffiaidd Gapten Lloyd Williams, Prif Gwnstabl Sir Aberteifi. Yr oedd yn noson i'w thrysori.
Gwyn Griffiths