25 Hydref 2010
Cynhyrchiad y National Theatre yn Llundain o ddrama Alan Bennett yn gwneud i Janice Jones hel meddyliau am gyflwr y theatr yng Nghymru a'n dau gwmni cenedlaethol ni.
Dyma ddrama newydd gan lenor sy'n cael ei ddisgrifio fel "trysor cenedlaethol" - drama sy'n trafod dau "drysor cenedlaethol" o artist arall ac a fwriadwyd i'w llwyfannu mewn adeilad sydd ei hun yn drysor cenedlaethol ym marn nifer.
Cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol (yn Llundain)a welwyd yn Venue Cymru brynhawn Sadwrn, ac yn sicr gellir dirnad mai drama wedi ei bwriadu ar gyfer ei pherfformio yno ydoedd yn bennaf.
Drama o fewn drama ydyw The Habit of Art lle mae criw o actorion yn ymarfer drama o'r enw Caliban's Day, drama sydd ei hun wedi ei hysbrydoli gan gerdd Auden The Sea and the Mirror.
Mae'r cast, felly, yn chwarae eu rhannau fel actorion, a hefyd fel cymeriadau yn y ddrama fewnol.
Calon y ddrama yw cyfarfyddiad dychmygol rhwng Auden a'r cyfansoddwr Benjamin Britten pan oedd y ddau mewn gwth o oedran.
Cafwyd perfformiadau clodwiw gan holl aelodau'r cast yn Venue Cymru gyda Desmond Barrit yn rhoi perfformiad arbennig o argyhoeddiadol fel Fitz, yr actor sy'n portreadu Auden.
Tu hwnt o ddoniol
Roedd cameo Matthew Cottle o Humphrey Carpenter ( yr awdur a ysgrifennodd fywgraffiadau o Auden a Britten, ac a oedd yn briod 芒 Mari, merch Caradog Prichard) fel Dame Constance Fetlock y tu hwnt o ddoniol.
Ond roedd perfformiadau'r actorion i gyd yn cyd-gordio ac yn creu perfformiad ensemble o safon uchel.
Roedd set Bob Crowley yn mynegi anhrefn cefn llwyfan; cyfarwyddo Nicholas Hytner, fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl, yn sicr a phwrpasol; a braf oedd mynychu perfformiad ble roedd y geiriau'n llywodraethu a dim dibyniaeth ar gimics technegol.
Mewn drama amlhaenog fel The Habit of Art, roedd nifer o them芒u yn cael eu gwyntyllu.
Crybwyllwyd nifer o them芒u drama Alan Bennett mewn dram芒u Cymraeg diweddar, megis Deryn Du Theatr Bara Caws, Chwilys Theatr Tandem a Llwyth Theatr Sherman Cymru.
Un o'r them芒u amlycaf oedd rhyw, yn enwedig rhyw rhwng dynion, a thrafodwyd y pwnc hwn mewn ieithwedd amrwd a doniol y byddai canran o selogion y theatr Gymraeg efallai'n ei chael hi'n anodd dygymod 芒 hi.
Thema amlwg arall oedd bywgraffiadau a bywgraffiadwyr a chan fod genre y bywgraffaid a'r hunangofiant yn un o gonglfeini'r traddodiad llenyddol Cymraeg, roedd yr agwedd hon ar y ddrama yn sicr yn taro deuddeg.
Honnir bod cymeriadau nad oeddent yn cael eu hystyried yn weddus - megis y bachgen ifanc a ddeuai i gael rhyw gydag Auden, ac a chwaraewyd yn ddeheuig gan Luke Norris - yn cael eu hanghofio'n gyfleus iawn mewn bywgraffiadau parchus. Pwy a 诺yr felly pa gyfrinachau sy'n llechu y tu 么l i hanes enwogion y genedl!
Pwysleisiwyd pwysigrwydd dyfalbarhad mewn creadigrwydd fel ym mhopeth arall. A chr毛wyd rhyw lun ar baradocs rhwng y ffaith bod artistiaid yn ennyn gwrandawiad parchus wedi oes o greu ac, ar brydiau, erbyn hynny, mewn gwirionedd, gyda llai a llai sy'n newydd i'w ddweud.
Modd cymharu
Gellir gweld bod modd cymharu hyn 芒'r duedd ym myd y theatr Gymraeg i odro dawn llond llaw o ddramodwyr nes bod eu gwaith mewn perygl o droi'n hesb.
Yma yng Nghymru rydym bellach 芒 dau gwmni theatr cenedlaethol. Cwmn茂au ifainc ydi'r ddau ond mae llwyddiant chwe mis cyntaf y cwmni cenedlaethol Saesneg ei gyfrwng, a'i barodrwydd i fynd 芒 theatr at y bobol ac i ymddiried mewn dramodwyr a phrofiadau theatrig newydd wedi bod yn dipyn o agoriad llygad.
Gobeithio'n wir y bydd y cwmni cenedlaethol Cymraeg ei gyfrwng yn canfod arweiniad cadarn a blaengar yn fuan, er mwyn sicrhau nad ydi 'the habit of art' yn nychu fwyfwy a throi yn 'the art of habit' ar ei lwyfan.
Janice Jones