Adolygiad Glyn Evans o Canrif / Century gan Manon Eames. Cynhyrchiad 2009 Cwmni Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru. Cyfarwyddwr, Tim Baker.
Gyda'r ffurflenni cais i ymuno 芒 Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru mae'r cwmni yn disgrifio ei hun fel hyn:
"Mae ganddo enw da sy'n tyfu ar gyfer creu a chyflwyno cynyrchiadau ar raddfa fawr sy'n gallu swyno, pryfocio, cynhyrfu, herio ac ysbrydoli. Mae ar flaen y gad o ran theatr ieuenctid yng Nghymru."
Ar 么l gweld cynhyrchiad diweddaraf y cwmni - Canrif / Century gan Manon Eames - y darllenais i'r geiriau yna.
Yn cerdded allan o berfformiad gerbron cynulleidfa gywilyddus o brin yn Theatr Clwyd bnawn Mercher Medi 9 ni allwn ond amenio.
Yr oeddwn eisoes wedi clywed fod prynhawn hir o'm blaen.
Gyda'r cyfarwyddwyr gorau yn y byd, y sgwenwyr aruchaf a'r arbenigedd dechnegol a chyfriadurol o'r radd flaenaf a chydag actorion gwerth miliynau ar filiynau o bunnau at ei galw mae Hollywood ei hun yn methu byth a hefyd 芒 chynnal bron i deirawr o gynhyrchiad - pa obaith felly i griw o lancesi a glaslanciau fel y rhain?
Wel, y gwir amdani yw i'r ddwyawr a thri chwarter (sy'n cynnwys parhad difyr yn y perfformio wrth y bar yn ystod yr egwyl) lithro'n gwbl ddidramgwydd.
Fel mae'r teitl yn ei awgrymu dehongliad o'r ugeinfed ganrif sydd yn y cynhyrchiad a hwnnw'n cael ei ddarlunio trwy gyfrwng nifer o'i digwyddiadau mawrion - Y Rhyfel Mawr, Aberfan, dyfodiad Roc an R么l, Tryweryn, ymgyrchoedd y duon yn yr Unol Daleithiau, protestiadau iaith y Chwedegau, blynyddoedd Thatcher a Streic y Glowyr ac yn y blaen.
A'r byrdwn o genhedlaeth i genhedlaeth yw un enwog Jack Kennedy i beidio a holi beth all eich gwlad wneud i chi ond holi yn hytrach beth allwch chi ei wneud i'ch gwlad.
Golwg bydeang, felly ond trwy lygaid gwahanol genedlaethau o Ddai a Myfanwy - y Pobun hynny sy'n dal y cynhyrchiad wrth ei gilydd er yn cael eu chwarae gan gymeriadau gwahanol yn ystod y gwahanol benodau wrth iddyn nhw ymuno 芒 brwydrau'r merched am bleidlais, y Rhyfel Byd Cyntaf lle mae Dai yn y ffosydd ochr yn ochr a bardd ifanc o'r enw Elis . . .
Yr oedd 46 ar y llwyfan a gallai pob un wan jac ohonyn nhw deimlo'n fodlon iawn a'u cyfraniadau. Fe roeson nhw eu popeth gan gyflawni yn ddifeth ofynion cynhyrchiad pwerus iawn o'r canu bendigedig i'r symud a dawns.
Yr oedd yna egni, angerdd, gwefr, disgyblaeth ac ymroddiad diball ac mae'r ffaith i Tim Baker lwyddo nid yn unig i ddod 芒'r fath dalent ifanc ynghyd ond ei chael mewn cytgord a'i gilydd yn codi calon rhywun yngl欧n 芒'r dyfodol.
Geiriau Cymraeg
Yr oeddwn i dan yr argraff - y camargraff fel mae'n digwydd - mai i weld cynhyrchiad Cymraeg oeddwn i'n mynd ac nid awgrymai'r rhaglen yn wahanol ychwaith.
Ond cynhyrchiad Saesneg ydi Canrif / Century .
Dim o'i le yn hynny ond yn amlwg yr oedd hynny'n pigo cydwybod y cwmni achos gwnaed ymdrechion gwan a gwirion i ddwyieithio'r sioe trwy ychwanegu geiriau a chymalau Cymraeg at rai brawddegau a hynny'n rhoi i'r actorion linellau od iawn i'w llefaru ar adegau:
Pethau fel:
- Can we say that we belong here, perthyn?
- Sometimes weithiau you don't know what to do.
- Something in your heart mewn fan hyn.
- A journey through time, amser.
- And so we begin yn y dechreuad.
- It's all but a dream, breuddwyd.
Ond dyna ddigon, enough, ryda chi'n deall be sy gen i ac ar adegau from time to time roedd y peth yn frech goch, measles, a ymylai ar fod yn gartwnaidd silly.
Diolch i'r drefn, bu ysbeidiau hirion pryd yr anghofiwyd am y polisi dwyieithog amheus hwn yn llwyr; as they let it slip o'u meddwl.
Byddai wedi bod yn well gen i, i'r cwmni fod wedi sefyll wrth ei benderfyniad o gyflwyno cynhyrchiad Saesneg heb ei danseilio a'r ansicrwydd ieithyddol Hwn.
Beth sy'n ei rwtystro rhag cael cynhyrchiad Cymraeg bob yn ail flwyddyn efallai a chyflawni addewid y rhaglen o roi "cyfle i bobl ifanc ragori a chydweithio'n greadigol - yn y ddwy iaith".
Cyfres o wrthdrawiadau
Cyfres o ddarluniau ydi Canrif / Century gyda'r hanner awr gyntaf yn ymdrin gyda chryn dipyn o ddoniolwch 芒'r cyn-amser yn darlunio'r cread ac esblygiad dyn ac anifail.
Wel, cyfres o wrthdrawiadau mewn gwirionedd a'r gred, debygwn i, mai gwrthdaro sy'n gyrru cymdeithas ac yn ystod y ganrif arbennig hon bu nifer o wrthdrawiadau trawiadol iawn yn amrywio o ddau ryfel byd i wrthdaro er mwyn ennill pleidlais i ferched, hawliau iaith ac yn y blaen.
Mae rhai golygfeydd gwirioneddol rymus. Ysgytwol.
Cymeriadau
Ond er yr elfen o wrthdaro mae'n nodwedd o'r cynhyrchiad nad trwy ddarlunio gwrthdaro rhwng cymeriadau y mae'r gwrthdaro cymdeithasol yn cael ei gyfleu ac er bod y cymeriadau Dai a Myfanwy efo ni o genhedlaeth i genhedlaeth mae gwrthdaro dramatig rhwng cymeriadau ar goll achos dydy nhw ddim yn gymeriadau yn yr ystyr theatrig.
Stori unedau o bobol sydd yma nid unigolion ac mae rhywun yn gweld eisiau'r elfen honno a fyddai'n troi yr hyn sy'n ddogfen yn ddrama.
Cael ein pledu
Fel ag y mae; mae yna fwy o siarad at y gynulleidfa na rhwng cymeriadau wrth inni gael ein pledu - a'n llethu weithiau - 芒 ffeithiau a gwybodaeth mewn cynhyrchiad sydd yn llawn dicter - indignation - ac yn gwbl glir a phregethwrol ddigyfaddawd ei safbwynt radicalaidd wleidyddol.
Ond mae yna hefyd olygfeydd dwys ysgytiol o effeithiol megis hanes Aberfan a'r rhes o gyrff mewn crysau gwynion, Rosa Parks a brwydr y Beasleys.
Ar nodyn ysgafnach cyfl毛wyd ar gychwyn yr ail hanner fwrlwm a gobaith newydd Pumdegau'r Rocanr么l wedi dwyster angerddol rhan gyntaf y cynhyrchiad.
Pedair Thatcher
Pe byddai'n rhaid dewis o blith nifer o bethau da rwy'n meddwl mai am gyfnod Thatcher a'r gwrthdaro tyngedfennol 芒'r glowyr y byddwn i wedi mynd. Y ddynes a'r galon haearn yn cael ei chwarae gan bedair actores ochr yn ochr a'i gilydd ar lwyfan.
Dangosai'r holl bennod hon ddyfeisgarwch a gwreiddioldeb a fyddai wedi hwyluso rhai o'r golygfeydd 'ffeithiol' eraill y cyfeiriais atyn nhw.
Yr ugeinfed ganrif mewn teirawr felly yng nghwmni criw a'i gwnaeth yn brofiad gwerth chweil. Mae'r lleisiau, gan gynnwys y cantorion swynol, yn dal i atseinio yn y cof a symudiadau torfol ar lwyfan yn dal o flaen llygad rhywun.
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
- Catrin Beard fu'n adolygu'r cynhyrchiad ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd ar 91热爆 Radio Cymru fore Sul, Medi 6 2009.