91热爆

The Dark Philosophers

The Dark Philosphers

02 Medi 2011

Adolygiad Lowri Haf Cooke o gynhyrchiad National Theatre Wales o The Dark Philosophers, G诺yl Caeredin Awst 2011.

Opera dywyll pobl Gwyn Thomas

Eleni, am y tro cyntaf erioed, cynhaliodd y Cyngor Prydeinig ar y cyd 芒 Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru arddangosfa o gynyrchiadau Cymreig yng Ng诺yl Caeredin.

Drama gwbl gyfoes Llwyth a gafwyd yn y Gymraeg, ond ar gyfer cynhyrchiad Saesneg, dewiswyd llwyfanu The Dark Philosophers gan National Theatre Wales, a brofodd daith lwyddiannus i Gasnewydd a Wrecsam yn Nhachwedd 2010.

Y mae'r ddrama dywyll hon yn ddathliad o fywyd a gyrfa sgwennu un o awduron Cymreig mwyaf nodedig yr ugeinfed ganrif- y bardd, yr athro a'r nofelydd Gwyn Thomas (1913-1981) o bentre'r Cymer yng Nghwm Rhondda, a daw'r teitl o gyfrol o straeon byrion ganddo a gyheddwyd ym 1946.

Un o brif gymeriadau'r cynhyrchiad yw Gwyn Thomas ei hun, a chwareir gan Glyn Pritchard, ac fe gyflwyna ei hanes trwy gyfrwng cyfres o straeon a chymeriadau sy'n cynrhychioli pobol ei gwm.

Mae'n bresenoldeb cyson ar y llwyfan - yn athronydd ac anthropolegydd ei ardal, yn byped-feistr ac yn fwydwr llinellau i'r cymeriadau sy'n gwyro o'r comig i'r grotesg.

Trigolion y terasau yw'r rhain; Hannah brydferth a Danny ei g诺r; y ffermwr a'r llosgachwr Simeon a'i ferched Eleanor, Elsa a Bess; y p芒r dadleugar Mr & Mrs Wilson; Clarisse a Vera o dafarn yr Harp , ac Oscar, rheolwr bwysfilaidd y lofa leol a'i was bach Lewis.

Clyfrwch cyfarwyddo

Os yw'r cymeriadau'n swnio'n ll锚d-gyfarwydd i ddarllenwyr gwaith Dylan Thomas a Caradog Prichard, a'r adlais o wrthryfel Dafydd yn erbyn Goliath - heb s么n am y canu emynau - yn taro sawl cloch, yna mae clyfrwch y cyfarwyddo, a'r technegau dyfeisgar a ddefnyddir i gyflwyno'r cyfan yn llwyddo i roi taw ar yr ochneidio yn o fuan.

Yn un peth, mae'r set ei hun gan y cynllunydd Angela Davies yn drawiadol iawn - pwy feddyliai y gallai pentwr mawr o gypyrddau gyfleu clwstwr o dai teras, yn ogystal 芒 fferm fynydd?

Ac mae perfformiadau'r cast cyfan (sy'n cynnwys Nia Davies, Nia Gwynne, Bettrys Jones, Daniel Hawksford, Matthew Owen a Ryan Hacker) yn gorfforol tu hwnt, wrth ymgorffori dawns, pypedwaith, a chomedi slapstig yn hynod ddeheuig.

Ceir enghreifftiau di-ri o glyfrwch gweledol, a chlywedol, yn enwedig wrth gyfosod tywyllwch y testun 芒 haen drwchus o hiwmor abswrd.

Wrth i'r gwas fferm Ben ymgolli'n llwyr mewn comic clywn ruthr byddarol cowbois ac injans uwchlaw sgrechian Simeon a'i ferched, ac mae ymateb slo-mo, mud, torf o lowyr y Coliseum i ymdrechion Vera fach i ganu yn werth ei weld.

Yn byped

Ac yn hytrach na chastio cawr o actor i bortreadu Oscar, gwnaethpwyd y penderfyniad ysbrydoledig i'w benodi'n bwped anferthol mewn siwt camel a mop o wallt coch, a darlledu llais mawr yn lle.

Ond efallai mai ennyd fwyaf eofn y ddrama yw pan derfir ar y cofiant cronolegol wrth wibio rai degawdau i'r dyfodol i ail-greu rhifyn o raglen Michael Parkinson (David Charles - yn dynwared y dyn i'r dim) y bu Gwyn Thomas yn westai arni, a hynny yng nghwmni Billy Connolly a Dolly Parton.

Golygfa swreal yn sicr, ond un syfrdanol o wych y dychwelir ati ar gyfer diweddglo ddirdynnol iawn.

Mae'r holl elfennau hyn yn deillio o benderfyniad NTW i gydweithio 芒 chwmni Told By an Idiot ac i wahodd un o gyfarwyddwr y cwmni hwnnw, Paul Hunter, i lywio'r cyfan.

Yn llwyddo

Mae'r cwmni o Lundain wedi derbyn cl么d aruthrol am droi straeon bob-dydd yn ecstrafagansa's epig wrth ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau theatrig, sy'n gweddu'n berffaith i ddrama o'r fath.

Yn ystod y cynhyrchiad, ceir cyfeiriad gan "Gwyn Thomas" at natur operatig bywyd y terasau.

Yn sicr, mae addasiad sgript Carl Grose o waith yr awdur yn llwyddo i ddathlu opera dywyll pobol y cwm heb unwaith estyn am y sebon.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.