02 Medi 2011
Adolygiad Lowri Haf Cooke o Llwyth gan Sherman Cymru ar y cyd 芒 Theatr Genedlaethol Cymru, G诺yl Caeredin Awst 2011 gyda thaith i ddilyn o amgylch Cymru.
Gwefreiddio cynulleidfaoedd
Anaml iawn y mae rhywun yn cyfeirio at gynhyrchiad Cymraeg fel ffenomenon llwyr, ond yng ngwanwyn 2010 dyna'n union a gafwyd, wrth i gynhyrchiad Sherman Cymru, Llwyth gan Dafydd James, wefreiddio cynulleidfaoedd ledled Cymru.
Os oedd y llynedd yn flwyddyn fawr yn hanes Llwyth, yna mae 2011 yn datblygu'n flwyddyn fwy fyth wrth i'r ddrama gael ei dewis i fynd ar daith hydref gyda Theatr Genedlaethol Cymru a thoc cyn hynny, ei dewis fel rhan o arddangosfa arbennig yng Ng诺yl Caeredin.
Pwrpas yr arddangosfa - a drefnwyd ar y cyd rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a'r Cyngor Prydeinig - oedd i roi llwyfan ryngwladol i'r cynhyrchiad ac, yn wir, yn ogystal 芒 denu adolygiadau ffafriol tu hwnt gan y wasg genedlaethol, mae na eisoes drafodaethau ar gyfer teithiau posib i'r Ariannin, Taiwan ac Awstralia.
Cynnig cymaint
Sut felly mae cynhyrchiad Cymraeg am griw o gyfeillion hoyw allan ar noson rygbi yng Nghaerdydd wedi cydio yn nychymyg cynifer?
Yn sylfaenol, mae hi'n ddrama sy'n cynnig cymaint mwy na'r amlinelliad arwynebol hwnnw ac er ei bod yn orlawn o gyfeiriadau Cymraeg mae iddi them芒u a naws hollgynhwysol.
Seren y sioe - yn ei feddwl ei hun - yw Aneurin (Simon Watts), awdur yn Llundain sy di cefnu ar ei deulu a Chymru fach. Mae e'n breuddwydio am gipio gwobr Booker am ei ddiweddariad o'r Gododdin, ac yn ymhyfrydu yn ei orchestion rhywiol gyda dieithriaid y ddinas fawr ddrwg.
Ond ar 么l mentro adre ar y Megabus, caiff groeso mawr gan ei lwyth yng Nghaerdydd; yn eu plith, Rhys (Paul Morgans), athro mathemateg a chyfaill bore oes; Gareth (Michael Humphreys), cariad di-Gymraeg Rhys sydd yn gweithio mewn gym - a Dada annwyl (Danny Grehan), dyn h欧n sy'n fam iddynt oll.
Tensiynau
Wrth inni ddilyn eu noson, o snortio coke o flaen Strictly yn fflat smart Dada i ochr-gamu chwaraewyr rygbi a chyn-gariadon yng nghlybiau canol y ddinas, daw'n amlwg bod tensiynau mawr yn llechu yn y cysgodion, a phan ddaw cyn-ddisgybl Rhys, Gavin (Joshua Price) i ymuno 芒'r criw, buan iawn y dont oll i'r wyneb.
Sefydlir mai pen bach a chanddo feddwl mawr ohono'i hun yw Aneurin - dyn sy'n "aml yn dweud sori", chwedl Dada, tra bo Dada ei hun yn delio 芒 cholled drom, a Rhys betrusgar mor benderfynol o ddal ei afael yn Gareth nes ei ddieithrio'n llwyr gyda'u dadlau di-baid.
Arweinia hyn oll at hanner awr olaf sydd yn gwbl wefreiddiol wrth gyfosod sawl golygfa dywyll ag eiliadau bach tyner sy'n ingol o drist cyn cloi 芒 dathliad ysblennydd o deulu, iaith a Chymreictod - a dinas Caerdydd.
Mymryn o addasu
Ar gyfer llwyfaniad Llwyth yn Eglwys St George's West, bu'n rhaid addasu'r ddrama rhyw fymryn, a gwnaethpwyd yn fawr o'r cysylltiadau 芒 Chaeredin, gan gynnwys ei chyfeiriadau di-ri at Hen Ogledd y Gododdin a thaith c么r Rhys i'r 糯yl.
Hefyd, er hwylustod, newidiwyd ychydig ar set, sy'n cyfuno fflat smart Dada, y clybiau nos a'r Billy Banks uwchlaw Bae Caerdydd.
Mae cerddoriaeth - a threfniannau meistrolgar Dafydd James o glasuron Cymraeg - yn rhan ganolog o'r cynhyrchiad ac ar gyfer yr ymweliad 芒 Chaeredin sefydlodd G么r Aelwyd Llundain eu presenoldeb yn gynnar iawn yn y ddrama, gan wneud cyfraniad cofiadwy at y coda gwych.
Rhoddwyd hefyd le canolog i'r uwch-deitlau Saesneg ac o brofi'r bonllef o gymeradwyaeth a bochau gwlyb y gynulleidfa ddi-Gymraeg, teg dweud iddynt lwyddo'n rhagorol i gyfleu geiriau sy'n gwyro rhwng Wenglish hamddenol a barddoniaeth gain mewn Cymraeg coeth.
Mae'n wir mai rhan o atyniad a newydd-deb Llwyth i nifer y llynedd oedd ei statws fel "drama hoyw" ac mae ei gwerthusiad amgen o'r iaith Gymraeg ac eiconau fel Margaret Williams, Iolo Morganwg a Mr Urdd, heb s么n am ddarlleniad o'r newydd o'r "Gw欧r a aeth Gatraeth", mor ddyfeisgar ag erioed.
Sadon syfrdanol
Ond mae na gryn dipyn mwy i Llwyth na hynny, a'r prif reswm i ailymweld 芒'r ddrama ar ei thaith gyda'r Theatr Genedlaethol - neu i'w gweld am y tro cyntaf wrth gwrs yn achos rhai - yw safon syfrdanol sgript Dafydd James pherfformiadau caboledig y cast cyfan, sy'n argyhoeddi'n llwyr drwyddi draw.
Er mai Simon Watts gipiodd gryn dipyn o'r cl么d y llynedd am ei feistrolaeth lwyr o'r monologau mawrion, rhaid dweud i'r actorion i gyd ddisgleirio y tro hwn gan gydio'n gadarn yn nynoliaeth pob un cymeriad.
Roedd y golygfeydd rhwng Paul Morgans a Michael Humphreys - a Simon Watts - mor deimladwy ag erioed, ac mae'n werth nodi i Joshua Price - disgybl ysgol sy'n 17 oed - gyflwyno haenen tywyllach fyth i olygfeydd Gavin eleni mewn rhan a chwaraewyd y llynedd gan Si么n Young.
Dagrau
Ond os oes rhaid dewis un perfformiad wnaeth gyffwrdd i'r byw, rhaid cyfadde mai tynerwch Danny Grehan fel Dada oedd yn bennaf gyfrifol am fy nagrau Niagraidd i y tro hwn.
Ond beth am y tro nesa? Does dim amheuaeth gen i y bydda i yn y gynulleidfa ar gyfer taith y Theatr Genedlaethol o Llwyth, ac edrychaf ymlaen i ddarganfod haenen bellach i ddrama sy'n cydio mor berffaith ym mlerwch prydferth bywyd.
Nid yn aml y daw'r cyfle i ail-weld cynhyrchiad mor arbennig yn yr iaith Gymraeg. Da chi, mynnwch docyn c ewch 芒 hances neu dair 芒 chwi.
Y daith
- Medi 13-16, 2011 8.00 pm CAERDYDD - Theatr Richard Burton, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru 029 2039 1391
- Medi 20-21, 8.00pm CAERNARFON - Galeri 01286 685222
- Medi 23 8.00pm ABERTEIFI - Theatr Mwldan 01239 621200 yn gwerthu tocynnau)
- Medi 26-27 8.00pm CAERFYRDDIN - Y Llwyfan, Heol y Coleg 0845 226 3510 (Theatrau Sir Gar yn gwerthu tocynnau)
- Medi 29 8.00pm RHUTHUN - Theatr John Ambrose 01824 702575 (tocynnau ar werth yn Siop Elfair)
- Medi Hydref 1 8.00pm. PONTYPRIDD- Theatr Gartholwg, Pentre'r Eglwys 01443 219589.