Dram芒u abswrd i genedl abswrd?
Adolygiad Sioned A Williams o gynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, Bobi a Sami ... a Dynion eraill
Doeddwn i ddim wedi edrych ymlaen gymaint at gyflwyniad diweddaraf Theatr Genedlaethol Cymru, Bobi a Sami ... a Dynion eraill, a hynny achos y tro hwn doeddwn i ddim yn gwybod beth yn union i'w ddisgwyl.
Gyda'r cynyrchiadau blaenorol, o waith Saunders Lewis, Arthur Miller neu hyd yn oed Aled Jones Williams, roeddwn i'n teimlo fy mod ar dir saffach o lawer.
Dydw i ddim mor gyfarwydd 芒 hynny 芒 gwaith Wil Sam Jones, ar wah芒n i Ifas y Tryc, a rhaid cyfaddef nag ydw i erioed wedi cymryd at hwnnw, a hynny efallai am ei fod mor werinol ogleddol ei naws.
Ar ben hynny, roedd gweld bod dwy ddrama fer o eiddo Samuel Beckett ar yr arlwy - a rheiny'n ddram芒u heb eiriau - yn ddigon i godi amheuon a fyddwn yn mwynhau'r noswaith.
Fodd bynnag, hwn, i'm tyb i, yw'r cyflwyniad gorau eto gan gwmni Theatr Genedlaethol Cymru.
Dangos dylanwad
Wrth gyflwyno Bobi a Sami ochr yn ochr 芒 gwaith Beckett, llwyddodd y cyfarwyddwr Cefin Roberts i ddangos dylanwad pendant Theatr yr Abswrd ar waith Wil Sam a hynny mewn ffordd sy'n codi'r ddrama i'w phriod le yn nhraddodiad rhai o ddramodwyr pwysicaf Ewrop fel Beckett a Ionesco.
Mae'r ddrama yn enghraifft glasurol o'r genre - yn rhoi mynegiant artistig i'r athroniaeth bod bywyd yn ei hanfod yn ddiystyr.
Ymysg nodweddion gwaith yr awduron arloesol yma mae comedi slapstig yn gymysg 芒 delweddau trasig, cymeriadau diobaith sy wedi eu dal mewn rhigol neu sefyllfaoedd anobeithiol, a defnydd chwareus o iaith - a dyna'n union elfennau Bobi a Sami.
Dau yn gaeth
Mae Bobi a Sami, y ddau brif gymeriad, yn gaeth mewn rhyw fath o seilam neu sefydliad, a'r mwyaf cegog o'r ddau, Bobi (Sion Pritchard ), yn mynd at y bos (perfformiad hyfryd o gynnil gan Llion Williams) er mwyn cael dianc gan nad yw'n teimlo mai "dyma yw eu lle nhw."
Mae'r p芒r yn cael gadael - ond yn cael rhybudd bod y byd tu fas yn lle creulon - ac na fydd modd dod n么l. Ond gadael mae'r ddau ac fe gawn ni ddilyn eu hynt truenus yn y byd mawr oer, yn byw ar y cyrion ac yn dadlau ymysg ei gilydd a yw byw fel hyn yn ddoeth.
Mae'n ddrama gynnil a thrawiadol, a'r sgript yn fendigedig o grefftus ac yn llawn hiwmor. Ac er fy mod i wedi disgwyl drama astrus neu dywyll o ran ei hystyr, diolch yn bennaf i berfformiad hynod yr actorion roedd yn hollol ddealladwy, yn codi cwestiynau sylfaenol am fywyd, ac roedd ei gwylio yn fwynhad pur.
Castio da
Roedd Llyr Evans wedi ei gastio'n berffaith fel Sami, cymeriad sy'n ymddangos yn fwy syml a mwy bregus na'i bartner a dyma'r perfformiad gorau i mi ei weld ganddo.
Roedd Sion Pritchard hefyd yn llwyddo i gyfleu'r hiwmor a'r drasiedi sy'n ymhlyg yn ei gymeriad heb unwaith or-actio ac roedd meistrolaeth lafar y ddau actor yn rhyfeddol.
Er ei bod felly yn ddwfn dan ddylanwad dramodwyr Abswrdaidd Ewrop, mae'n ddrama Gymreig heb os, gyda digon o gyfeiriadau crafog at ddiwylliant y capel, y Gymraeg a gwleidyddiaeth.
Ac fe'm tarodd wrth ei gwylio bod yna rywbeth hanfodol Gymreig am Theatr yr Abswrd efallai, gan fod yna rywbeth bron yn abswrd am fod yn Gymro neu'n Gymraes yn aml iawn, yn brwydro i siarad eich iaith eich hun yn eich gwlad eich hun a gorfod cyfiawnhau bodolaeth eich hunaniaeth dro ar 么l tro wrth y 'Bos' mawr drws nesa!
Dwy gan Beckett
Roedd cyfosod Beckett a Wil Sam nid yn unig yn cyfleu abswrdiaeth y dramodydd o Gymro felly, ond hefyd yn rhoi rhyw arlliw Cymreig i ddram芒u'r Gwyddel.
Symudiadau'r corff, osgo, a'r set wych oedd yn dal y sylw yn y cynhyrchiadau o ddramau Beckett Act Without Words I ac Act Without Words II, ac roedd gwylio perfformiadau actorion adnabyddus fel Llion Williams a Llyr Evans fel pe bai'n tanlinellu'r elfen gorfforol, weledol mewn comedi Gymraeg - meddyliwch am rai o sgets Hapnod neu Wali C'mon Midffild.
Yn Act Without Words I mae Llion Williams yn cael ei daflu ar y llwyfan i ryw fath o ddifeithwch gyda rhyw fod hollalluog (sy'n ddim ond chwiban chwareus) yn ei boenydio, wrth gynnig ac yna'n ei amddifadu am yn ail o gysgod coeden neu ddiod o dd诺r.
Pan fo ei boen meddwl yn mynd yn ormod mae'n ceisio lladd ei hunan - ond dyw e ddim hyd yn oed yn cael gwneud hynny gan fod y rhaff y mae e am grogi ei hun 芒 hi, a'r siswrn y mae ei am drywanu ei hunan ag ef yn cael eu tynnu oddi arno.
Yn y diwedd mae'n gwrthod ymateb yn llwyr, wedi ei lesteirio a'i orchfygu ond hefyd efallai wedi adennill ei urddas yn sgil ei wrthryfel.
Mewn sachau
Yn yr ail ddrama mae Llyr Evans a Sion Pritchard wedi eu cuddio mewn sachau gwyn ar y llwyfan, ac yn eu tro yn cael eu deffro gan ffon fawr goch.
Mae'r ddau yn ymateb yn hollol wahanol i'w ennyd o fywyd a hynny mewn ffordd sy bron a bod yn Chaplinesque - cymeriad Sion Pritchard yn druenus o ddi-glem wrth straffaglu i wisgo amdano tra bod cymeriad Llyr Evans yn sionc ac yn drefnus.
Mae hiwmor y ddrama eto'n hollol gorfforol fel yn y ffilmiau mud cynnar a'r gerddoriaeth yn yr un modd ag yn y ffilmiau hynny yn gyfeiliant ac yn rhan o'r j么cs gweledol.
Roedd y gynulleidfa yn rowlio chwerthin er roedd yna elfennau tywyllach i'r ddrama hon hefyd a'r awgrym bod pob math o fywyd, er yn wahanol, yn gylch diddiwedd a dibwrpas.
Monolog i ddechrau
Agorwyd y noson gyda cyflwyniad o waith Luned Emyr, sef y monolog Meical. Er fy mod yn cymeradwyo Theatr Genedlaethol Cymru am roi llwyfan i ddramodwyr newydd roedd yn waith rhywfaint gwanach na'r gweddill ac er bod yna ambell foment gwirioneddol ddoniol roedd y syniad canolog o fachgen yn dilyn breuddwyd ei fam wrth geisio dod yn actor braidd yn ystrydebol, a'r argraff honno yna'n cael ei dwys谩u rhywfaint gan y dram芒u eraill a gyflwynwyd.
Y set a'r gerddoriaeth
Roedd y set, fel r欧n ni wedi hen ddisgwyl bellach gan Theatr Genedaethol Cymru, yn hynod gain a mentrus.
Mae 么l y cynllunio dyfeisgar a'r gwario amlwg ar y props yn sicrhau bod y cynhyrchiad hwn yn edrych cystal ag unrhyw ddrama ar lwyfan rhyngwladol.
Rhaid dweud gair hefyd am y gerddoriaeth, oedd wedi'i chyfansoddi gan Osian Gwynedd ac roedd y defnydd o'r un thema ar ddechrau pob drama, a oedd yn llwyddo i glymu'r cyfan at ei gilydd, yn effeithiol ond heb fod yn llawdrwm, a drwyddi draw roedd y gerddoriaeth yn gweddu ac yn uchelseinio naws y golygfeydd.
Mae Bobi a Sami ...a Dynion eraill yn gyfanwaith cain sy'n llwyddo dangos bod gan l锚n Cymru le haeddiannol o fewn y traddodiad Ewropeaidd a bod gan y traddodiad hwnnw rywbeth i'w ddweud wrth Gymru.
Mor braf a phwysig yw cael cwmni theatr cenedlaethol sy'n medru agor ein llygaid i hynny.