91热爆

Vernon Jones - pob beirniadaeth drosodd!

Vernon Jones

28 Medi 2009

Ar 么l hanner can mlynedd o feirniadu mewn eisteddfodau dywed Vernon Jones ei fod am roi'r gorau iddi.

Beirniadaeth olaf y g诺r o Bow Street ger Aberystwyth oedd cystadleuaeth y soned yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala 2009 lle yr enillodd ef ei hun ar y delyneg allan o bron i ddeugain.

Wedi'r cyfan y mae'r beirniad prysur yn gystadleuydd llwyddiannus hefyd ac yn Y Bala hefyd daeth yn ail am gerdd ysgafn.

Pum gwaith

Yn wir, yn ystod y deng mlynedd diwethaf mae wedi ennill ar ryw gystadleuaeth farddoni neu'i gilydd yn y Genedlaethol bum gwaith!

Y tebygrwydd yw y bydd y cystadlu yn parhau gan fod hwnnw, meddai, yn y gwaed gyda'r cyfaddefiad ei fod "yn fwy o gystadleuydd na bardd!".

Ond yngl欧n 芒'r beirniadu dywedodd Vernon Jones wrth siarad ar Raglen Dei Tomos nos Sul Medi 20, 2009:

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

"Byddai'n well imi roi'r gorau iddi'n awr tra bod y mhen i'n iawn!"

Ond o ddifrif, ychwanegodd y dylai unrhyw feirniad ar 么l cyrraedd rhyw oed adael y beirniadu i rai ieuengach.

Dywedodd iddo ef gychwyn ar ei yrfa fel beirniad yn beirniadu ar yr adrodd mewn 'sosial' yn y Bontgoch.

Dyfarnodd ei gadair gyntaf mewn eisteddfod 'fawr' yn Abergorlech.

Pwysleisiodd na fydd yna ailfeddwl yn awr fod y penderfyniad wedi ei wneud:

"Os da chi'n gorffen a dweud eich bod chi'n gorffen yna rydych chi yn gorffen," meddai.

Mydr ac odl

Ar yr un rhaglen bu'n trafod gyda Dei Tomos hefyd natur y delyneg a'i dueddiadau yntau fel bardd gan ddisgrifio ei hun fel bardd mydr ac odl yn bennaf:

"Ond yn aml iawn mae'r cynganeddion yn eich helpu chi mlaen ac yn datblygu rhyw syniad falle nad oeddech chi meddwl amdano oherwydd y gyfatebiaeth yn y gynghanedd," meddai.

Pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd rhythm mewn cerddi vers libre

"Mae na beryg i ddyn fynd yn rhyddieithol - mae na lot o gerddi da vers libre a rhythm ynddyn nhw ond mae peryg hefyd mynd i sgrifennu'n rhyddieithol. "Y peth cyfrin yna ydi e," meddai.

Dywedodd bod y ffaith ei fod yn adroddwr yn help hefyd wrth gyfansoddi.

Daeth y sgwrs i ben gyda chyfeiriad at eisteddfodau a wnaeth argraff arno gan gynnwys rhai yn arbennig ororau dwyreiniol y Canolbarth.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 91热爆 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

91热爆 iD

Llywio drwy鈥檙 91热爆

91热爆 漏 2014 Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.